Sut y gall cynaliadwyedd amgylcheddol fod o fudd i'ch busnes

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynaliadwyedd
environment lightbulb

Mae ymgorffori cynaliadwyedd yn eich strategaeth fusnes nid yn unig yn sicrhau eich bod yn chwarae eich rhan wrth helpu'r amgylchedd, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr masnachol. Yn y blog bost hwn, rydym yn amlinellu dau o'r rhesymau allweddol y dylai eich busnes ddod yn fwy cynaliadwy a rhai awgrymiadau ymarferol i'ch helpu chi i gyflawni hyn.

Pam y dylai eich busnes gofleidio cynaliadwyedd

Arbed arian

Gallech roi hwb sylweddol i linell waelod eich busnes trwy leihau eich defnydd o ynni, cadw dŵr, ailgylchu a defnyddio llai o ddeunyddiau. Yn ôl amcangyfrifon y llywodraeth, gallai gwelliannau effeithlonrwydd ynni arbed £6 biliwn y flwyddyn i fusnesau’r DU. Nid oes rhaid i hyn gynnwys prynu offer newydd bob amser. Yn aml, gallwch arbed ar eich biliau ynni dim ond trwy gyflwyno newidiadau ymddygiad bach a gwneud y gorau o'r offer sy'n bodoli'n barod.

Ennill mantais gystadleuol

Mae defnyddwyr yn dod yn fwy a mwy ymwybodol o'r amgylchedd, ac mae eu gwerthoedd yn dylanwadu ar eu hymddygiad siopa. Yn ôl ymchwil gan InRiver, dywedodd 63% o ddefnyddwyr Prydain o 16-44 oed y byddent yn rhoi’r gorau i ddefnyddio brand pe bai’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Mae dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd hefyd yn hanfodol i'r broses gaffael a bydd yn cynyddu eich siawns yn sylweddol wrth dendro am gontractau newydd. Yn ogystal, mae gan lawer o brynwyr masnach dargedau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ac maent yn edrych yn gynyddol am gyflenwyr a all eu helpu i gyflawni'r nodau masnachol hyn.

Sut i wneud eich busnes yn fwy cynaliadwy

1.) Cynhaliwch adolygiad

Deallwch ymhle y mae effeithiau amgylcheddol yn codi yn eich gweithrediadau trwy ystyried ble rydych chi'n defnyddio adnoddau fel dŵr, ynni a thrafnidiaeth. Cymerwch gip ar ble mae gwastraff yn codi ar draws eich gweithgareddau prynu, prosesu a dosbarthu, yn ogystal ag yn eich adeilad. Gallech hefyd drefnu apwyntiad gydag ymgynghorydd cynaliadwyedd arbenigol i gynnal adolygiad.

2.) Torrwch i lawr ar eich defnydd o adnoddau

Dyma rai ffyrdd y gallech chi leihau eich defnydd o adnoddau - mae llawer o'r rhain yn syml a naill ai am ddim neu mae’r gost yn isel.

Goleuo

  • Addysgwch eich gweithwyr i ddiffodd goleuadau pan nad oes eu hangen
  • Ail-drefnwch eich swyddfa i wneud y mwyaf o olau naturiol, gan sicrhau nad oes unrhyw beth yn torri ar draws (blocio) ffenestri a bod staff yn eistedd yn agos atynt
  • Ystyriwch ddefnyddio rheolyddion goleuadau fel synwyryddion deiliadaeth sy'n canfod pan fydd rhywun yn bresennol, neu reolaethau lefel golau sy'n troi goleuadau ymlaen / i ffwrdd neu'n eu lleihau yn dibynnu ar faint o olau dydd sydd ar gael. Dyma ganllaw ar y gwahanol fathau o reolaethau goleuo a phryd i'w defnyddio. 

Gwresogi

  • Sicrhewch fod amseryddion bob amser yn cael eu gosod fel bod y gwres yn cyd-fynd ag oriau gwaith
  • Os oes gennych chi leoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio yn aml, trowch y rheiddiaduron i ffwrdd
  • Osgowch osodd rhwystrau fel dodrefn o flaen rheiddiaduron a fentiau
  • Yn y gaeaf, cadwch ddrysau allanol ar gau lle bynnag y bo modd; os oes angen eu gadael ar agor, ystyriwch osod llenni aer neu lenni stribedi i helpu i arbed ynni
  • Yn yr haf, cyn i chi droi’r aerdymheru ymlaen, meddyliwch am ddefnyddio opsiynau eraill yn gyntaf fel agor ffenestri a chau bleindiau. Os oes rhaid i chi ei droi ymlaen, yna peidiwch ag anghofio cau'r ffenestri a'r drysau
  • Addysgwch eich gweithwyr am gostau gwastraffu gwres ac aerdymheru

Dŵr

  • Gwiriwch a thrwsio unrhyw ollyngiadau o bibellau, gosodiadau plymio a ffitiadau yn rheolaidd
  • Gosodwch offer dŵr-effeithlon fel awyryddion tap neu gyfyngwyr llif, pennau cawod llif isel a wrinalau di-ddŵr
  • Gwnewch yn siŵr fod staff yn ymwybodol o sut y gallant gadw dŵr gydag arferion syml, bob dydd, er enghraifft aros nes bod y peiriant golchi llestri yn llawn cyn ei ddefnyddio a pheidio â gadael tapiau i redeg
  • Meddyliwch am ffyrdd y gallech chi ai lddefnyddio dŵr, fel gosod bowlen yn y sinc i gasglu dŵr pan fyddwch chi'n aros i'r tap gynhesu neu oeri, ac fe allwch chi wedyn ei ddefnyddio ar gyfer dyfrio planhigion neu lanhau.

Offer

  • Sicrhewch fod eich gweithwyr yn dod i’r arferiad o ddiffodd offer fel cyfrifiaduron, argraffwyr a llungopiwyr wrth y plwg ar ddiwedd y dydd
  • Sicrhewch fod monitorau yn cael eu diffodd pan nad yw pobl wrth eu desgiau am fwy na deng munud
  • Argraffwch mewn sypiau lle bo hynny'n bosibl
  • Tynnwch y plwg gwefru ffonau a gliniaduron pan nad oes eu hangen
  • Edrychwch ar amnewid offer sydd wedi dyddio sy'n llosgi llawer o ynni gydag offer sy’n fwy newydd, mwy effeithlon o ran ynni, a fydd yn arbed arian i chi yn y tymor hir

I gael mwy o wybodaeth ar sut i arbed ynni, edrychwch ar y Canllaw hwn ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig hyn ar Effeithlonrwydd Ynni.

3.) Defnyddiwch gyflenwyr cyfrifol

Cymerwch gamau i adolygu a sicrhau bod eich busnes yn dod o hyd i nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr cyfrifol a all ddangos arferion amgylcheddol da.

4.) Cadwch gofnod

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnodion cywir o'r camau rydych chi'n eu cymryd a'r arbedion rydych chi'n eu cyflawni, gan fod y rhain yn ffordd dda o ddangos perfformiad amgylcheddol gwell i'ch rhanddeiliaid a gwahaniaethu'ch busnes yn ystod prosesau tendro.

Gyda thîm mewnol arbenigol o gynghorwyr cynaliadwyedd arbenigol, mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig help a chyngor ar gyfer busnesau ledled Cymru sydd am gyflawni eu nodau cynaliadwyedd ac ennill busnes newydd. Mae annog effeithlonrwydd dŵr ac ynni, defnyddio llai o ddeunyddiau crai a lleihau gwastraff, ynghyd â chyflwyno rheolaeth a pholisïau amgylcheddol ymhlith y meysydd lle gall Busnes Cymru gefnogi sefydliadau, gan eu helpu i yrru arloesedd a chydnerthedd i gyrraedd marchnadoedd newydd ac arbed arian ar gyfer twf.

Os ydych chi am ddarganfod mwy am sut y gallwch chi wneud eich busnes yn fwy cynaliadwy, cysylltwch â'ch Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru.