Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Diwylliant cwmni: be’ mae hyn yn ei olygu a sut i wella eich un chi

Portrait of Sophie Perry
Swyddog Ymgyrchoedd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Teams meeting taking place in a meeting room

Dychmygwch weithle lle mae gweithwyr wedi'u cymell i wneud eu gorau, lle mae gwaith tîm yn ffynnu, a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Nawr, cyferbynnwch hynny ag amgylchedd sy'n llawn datgysylltiad, trosiant uchel, a diffyg ymddiriedaeth. Sut allwch chi greu'r amgylchedd cyntaf hwnnw ac osgoi'r ail? Mae'n dibynnu ar ddiwylliant y cwmni.

Nid yn unig mae diwylliant cwmni yn allweddol i brofiad dyddiol y gweithiwr, ond mae'n ymledu allan, gan ddylanwadu ar sut mae ymgeiswyr am swyddi a hyd yn oed cwsmeriaid yn gweld eich sefydliad. Mae'n rym sy’n gyrru ymlaen y tu ôl i ymgysylltiad gweithwyr a llwyddiant cyffredinol y busnes, ond weithiau gall fod yn anodd ei ddisgrifio neu ei fesur.

I helpu, rydym wedi llunio'r canllaw hwn sy'n trafod beth mae diwylliant cwmni yn ei olygu, pam ei fod yn bwysig, sut i'w wella, a ffyrdd o'i fesur.

Beth yw diwylliant cwmni?

Diwylliant cwmni yw'r gwerthoedd, y credoau, yr ymddygiadau a'r normau a rennir sy'n llunio gweithle. Mae'n cynnwys elfennau ffurfiol fel systemau, polisïau a phrosesau, ac elfennau anffurfiol fel rheolau anysgrifenedig a normau cymdeithasol.

Er enghraifft, gallai elfen ffurfiol fod bod eich gweithwyr yn defnyddio offeryn fel Teams neu Slack i gyfathrebu, tra gallai elfen anffurfiol fod y tôn y mae cydweithwyr yn tueddu i siarad â'i gilydd ynddi. Neu efallai bod gennych broses adolygu perfformiad strwythuredig ar waith (ffurfiol), a hefyd dealltwriaeth ddistaw y gall eich gweithwyr ofyn i'w rheolwr llinell am adborth neu gyngor achlysurol unrhyw bryd (anffurfiol).

Mae'r holl bethau hyn yn ychwanegu at ei gilydd i greu diwylliant eich cwmni a diffinio sut mae’n teimlo i weithio yn eich busnes neu ryngweithio ag ef. Mae gan bob sefydliad ddiwylliant unigryw ac mae'n rhywbeth sy'n esblygu dros amser.

Pam mae diwylliant cwmni yn bwysig?

Nid dim ond rhywbeth ‘braf iawn i'w gael’ yw diwylliant cadarnhaol cwmni; mae’n cael effaith uniongyrchol ar berfformiad busnes. Dyma ychydig o resymau pwerus pam y dylech ganolbwyntio ar adeiladu a chynnal diwylliant da:

Ymgysylltu a chadw gweithwyr

Bydd meithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn rhan o’u gwaith, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn arwain at ymgysylltiad uwch gan weithwyr. Bydd hyn yn ei dro yn eu gwneud yn fwy tebygol o aros gyda’r sefydliad, gan leihau’r trosiant a’r costau sy’n gysylltiedig ag ef.

Cynhyrchiant cynyddol

Mae gweithwyr sy'n ymgysylltu ac yn buddsoddi yn eu gwaith yn gyffredinol yn fwy cynhyrchiol ac yn perfformio'n well. Gall diwylliant sy'n hyrwyddo gwaith tîm a chydweithio hefyd ysgogi arloesedd a thwf busnes trwy feithrin creadigrwydd a datrys problemau. Ar y llaw arall, gall diwylliant negyddol olygu mwy o gamddealltwriaethau, seilos, gwrthdaro yn y gweithle, a gweithwyr wedi llwyr ymlâdd am eu bod yn gor-weithio, ac fe all hyn i gyd effeithio'n negyddol ar gynhyrchiant.

Denu’r doniau gorau

Mae datblygu brand cyflogwr cryf a chael enw da am gael diwylliant cwmni cadarnhaol ei gwneud hi'n llawer haws i ddenu'r doniau gorau a gwneud i'ch busnes sefyll allan o blith cystadleuwyr. Nid dim ond cyflogau cystadleuol y mae ceiswyr gwaith yn chwilio amdanynt – maent hefyd eisiau gweithio mewn amgylchedd sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd a'u dull gwaith dewisol. Fel arfer, mae'n eithaf hawdd iddynt gael ymdeimlad am ddiwylliant cwmni, hyd yn oed cyn iddynt ddod am gyfweliad - gall LinkedIn, adolygiadau Glassdoor, a'ch gwefan i gyd roi cipolwg o hyn.

Profiad cwsmeriaid gwell

Mae diwylliant cwmni yn chwarae rhan allweddol wrth wella profiad cwsmeriaid. Mae gweithwyr sy'n teimlo'n hapusach ac yn fwy ymgysylltiedig yn y gwaith yn fwy tebygol o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Pan fydd gennych ddiwylliant cryf sy'n cyd-fynd â hunaniaeth eich brand a gwerthoedd cwsmeriaid, mae hefyd yn creu dealltwriaeth gyffredin ymhlith gweithwyr ynghylch sut i drin cwsmeriaid. Mae hyn yn golygu, mae'n debyg, y bydd y cwsmer yn cael profiad cyson a chadarnhaol waeth pa adran neu unigolyn y maent yn siarad ag ef.

Sut i wella diwylliant cwmni

Mae datblygu diwylliant cwmni cryf yn ymwneud â mwy na chynnig manteision fel rhyw fyrbrydau am ddim neu aelodaethau campfa am bris gostyngol. Gall y pethau hyn helpu yn sicr, ond nid ydynt yn rhan sylfaenol o ddiwylliant da. Mae'n ymwneud â chreu amgylchedd lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, eu grymuso, a'u huno o amgylch pwrpas a rennir.

Dyma rai camau y gallwch eu cymryd i wella diwylliant eich cwmni:

Diffinio a chyfleu eich gwerthoedd

Mae gwerthoedd craidd eich cwmni yn gweithredu fel yr egwyddorion arweiniol ar gyfer ymddygiad a gwneud penderfyniadau gweithwyr. Bydd cael gwerthoedd wedi'u diffinio'n glir a'u cyfleu ledled y sefydliad yn llunio diwylliant eich cwmni yn gadarnhaol, gan ddod ag eglurder a helpu i feithrin ymdeimlad o hunaniaeth a phwrpas ymhlith cydweithwyr.

Arwain yn effeithiol

Mae arweinydd gwych yn ysbrydoli ac yn cymell ei weithwyr i gydweithio tuag at nod cyffredin, ac maen nhw'n gosod y naws ar gyfer gweddill y sefydliad. Drwy weithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb, cyfathrebu'n agored, a thrin gweithwyr â pharch, gall arweinwyr anfon neges glir am yr ymddygiadau a ddisgwylir ac a dderbynnir yn y gweithle. Darllenwch ein herthygl ar arweinyddiaeth effeithiol am fwy o awgrymiadau.

Cydnabod a gwobrwyo gweithwyr

Mae cydnabyddiaeth yn un o'r pethau mwyaf pwerus y gallwch eu defnyddio i hybu morâl a theyrngarwch gweithwyr. Gall ei gwneud yn rhan annatod o'ch busnes drawsnewid eich diwylliant yn wirioneddol. Gall gwobrau ddod ar sawl ffurf mewn gwirionedd, gall fod yn ariannol ac yn anariannol, gan gynnwys canmoliaeth lafar neu ysgrifenedig, bonysau, gwobrau a dyrchafiadau. Er mwyn i gydnabyddiaeth fod yn fwyaf ystyrlon ac effeithiol, dylai’r cydnabyddiaeth hwnnw fod yn amserol (wedi'i rhoi ar y pryd neu cyn gynted â phosibl wedyn), yn benodol, ac wedi'i phersonoli. Mae hefyd yn syniad da i gydnabyddiaeth ddod o amrywiaeth o ffynonellau - nid yn unig gan arweinwyr ond gan gyfoedion hefyd.

Annog cydweithio

Mae creu amgylchedd sy'n hyrwyddo cydweithio yn mynd yn bell i wella ymgysylltiad a chryfhau diwylliant eich cwmni. Mae gosod amcanion busnes clir, defnyddio offer cydweithredol, ac annog prosiectau trawsadrannol yn ddim ond ychydig o ffyrdd y gallwch chi helpu gweithwyr i gydweithio'n fwy effeithiol.

Hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith

Gall blaenoriaethu cydbwysedd bywyd a gwaith i weithwyr – er enghraifft, drwy gynnig trefniadau gweithio hyblyg a gweithio o bell ac annog seibiannau – helpu i lunio diwylliant gweithle iach a chadarnhaol. Mae'n dangos bod eich busnes yn gwerthfawrogi ei bobl ac yn parchu eu hamser a'u lles, sy'n hanfodol wrth feithrin ymddiriedaeth, teyrngarwch a boddhad cyffredinol gweithwyr.

Buddsoddwch mewn datblygiad proffesiynol 

Bydd rhoi cyfleoedd i'ch gweithwyr ddatblygu eu sgiliau a gwneud cynnydd yn eu gyrfaoedd yn gwneud iddynt deimlo'n werthfawr, yn hyderus, ac yn ymgysylltiedig. I gael gwybod mwy am hyfforddiant gweithwyr a'i fanteision, darllenwch ein herthygl.

Sut i fesur diwylliant cwmni

Felly, sut ydych chi'n gwerthuso diwylliant eich cwmni? Sut ydych chi'n gwybod a yw eich ymdrechion i'w wella yn gweithio? Mae'n hawdd synhwyro diwylliant cwmni ond gall fod yn llawer anoddach ei fesur. Fodd bynnag, mae rhai metrigau a dulliau anuniongyrchol y gallwch eu defnyddio i'w asesu. Dyma rai y gallech fod eisiau eu hystyried:

  • Cyfradd cadw gweithwyr – mae cyfradd cadw uchel yn aml yn dynodi diwylliant cadarnhaol a chefnogol. I gyfrifo'ch cyfradd cadw, rhannwch nifer y gweithwyr a arhosodd yn eich busnes drwy gydol cyfnod penodol â nifer y gweithwyr a ddechreuodd ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod hwnnw, ac yna lluoswch â 100. Cymerwch olwg ar ein canllaw cadw gweithwyr i ddysgu mwy.
  • Arolygon ymgysylltiad gweithwyr – gall y rhain eich helpu i fesur pa mor frwdfrydig, bodlon a chysylltiedig y mae cydweithwyr yn teimlo.
  • Grwpiau ffocws – mae trefnu grwpiau ffocws gyda chroestoriadau o weithwyr yn ffordd dda o gael gwybodaeth ansoddol werthfawr a gall ganiatáu ichi ymchwilio’n ddyfnach i ganlyniadau eich arolygon gweithwyr.
  • Cyfweliadau ymadael – bydd cynnal cyfweliadau ymadael effeithiol yn rhoi cipolwg ymarferol i chi ar brofiad y gweithiwr a sut allwch chi greu amgylchedd gwaith gwell.
  • Cyfradd dyrchafu fewnol – gall y metrig hwn eich helpu i benderfynu a oes gennych ddiwylliant sy'n meithrin gweithwyr ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer twf.
  • Atgyfeiriadau gweithwyr – mae cyfradd atgyfeirio uchel gan weithwyr yn awgrymu gweithlu ymgysylltiedig a theyrngar.
  • Arolygon boddhad cwsmeriaid – mae gan fusnesau sydd â diwylliannau cwmni gwych foddhad cwsmeriaid gwell yn aml. Er bod boddhad cwsmeriaid yn cael ei ddylanwadu gan lawer o ffactorau ac felly nid yw o reidrwydd yn adlewyrchiad uniongyrchol o ddiwylliant eich cwmni, gall fod yn fetrig da i'w ddefnyddio ar y cyd â metrigau eraill.

I ddysgu mwy am ymgysylltu a chadw gweithwyr, a ffyrdd eraill o dyfu a chryfhau eich busnes, edrychwch ar yr erthyglau eraill ar ein Hwb Dysgu.

Os oes angen cyllid arnoch i'ch helpu i ddechrau, tyfu neu brynu busnes, cysylltwch â ni – rydym yn darparu amrywiaeth o opsiynau ariannu ar gyfer busnesau yng Nghymru.

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol trwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni