Y daith codi arian: canllaw cam wrth gam ar gyfer llwyddiant busnes sy’n dechrau o’r newydd

Rhan 2 - Y daith codi arian
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
A group of people in a business meeting

Mae codi arian yn un o'r prosesau pwysicaf, ond efallai mai dyma'r un sy'n cael ei gamddeall fwyaf, ym mywyd ac esblygiad busnes technoleg sy'n tyfu. 

Mae'r rhan fwyaf o sylfaenwyr yn deall y bydd angen arian ar fusnesau i dyfu – ac i ddechrau bydd y rhan fwyaf wedi bod yn gwario eu harian eu hunain. Ond deall faint sydd ei angen ar gyfer y dyfodol, o ble y gallai ddod, a sut i'w gael – wel, dyna rywbeth arall. 

Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i helpu sylfaenwyr cwmnïau i ddeall a llywio'r camau sy'n gysylltiedig â sicrhau'r cyllid sydd ei angen arnynt i gyflawni eu nodau yn well – a gobeithio lleddfu rhywfaint o'r straen ar hyd y ffordd. Mae'n bwysig cofio, serch hynny, fod pob cwmni'n wahanol, mae pob sylfaenydd yn wahanol, ac felly, bydd pob taith codi arian yn unigryw. 

Pam mae codi arian yn fwy na dim ond arian 

Mae'n werth nodi ymlaen llaw nad yw codi arian byth yn ymwneud ag arian yn unig – mae'n ymwneud ag adeiladu partneriaethau. Gall y buddsoddwr cywir helpu mewn ffyrdd mwy gwerthfawr na chynnig arian yn unig. Ond fel unrhyw berthynas, gall codi arian fod yn daith sy'n profi eich cadernid, eich gweledigaeth, ac eglurder pwrpas – gall fod yn anodd ar adegau. 

P'un a ydych chi'n codi cyllid sbarduno am y tro cyntaf neu'n ehangu tuag at weithio gyda buddsoddwyr mwy, mae'r broses yn gofyn am baratoi, amynedd, gwaith caled, a hyblygrwydd. Hefyd, anaml y byddwch chi'n gwneud hyn unwaith yn unig: mae pob cam yn adeiladu ar yr un diwethaf. 

Y newyddion da? Gyda strwythur, paratoi, realaeth, a'r meddylfryd cywir, gall codi arian fod yn gyflymydd pwerus i'ch busnes. 

Nawr, gadewch i ni blymio i'r daith codi arian gam wrth gam. 

1. Gwneud y penderfyniad i godi arian 

Cyn adeiladu unrhyw gyflwyniad marchnata neu anfon unrhyw e-bost, y cam cyntaf, a mwyaf sylfaenol, yw gwneud y penderfyniad i godi cyfalaf allanol. Mae'n swnio'n syml, ond mae hwn yn naid seicolegol cymaint ag yn naid busnes. 

Mae codi arian yn golygu mynd i mewn i bartneriaeth. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i sylfaenwyr rannu rheolaeth, cyd-fynd â buddsoddwyr, a derbyn y bydd penderfyniadau yn y dyfodol yn cael eu gwneud ar y cyd. Os yw'r syniad hwnnw'n teimlo'n anghyfforddus, mae'n werth oedi cyn i chi fwrw ymlaen. Efallai nad codi arian yw'r llwybr cywir i chi. 

Mae'n benderfyniad mawr, oherwydd fe fydd y rhan fwyaf o sylfaenwyr wedi arfer gwneud pethau yn eu ffordd eu hunain. Byddant yn gwybod pob rhan o'u busnes a phob naws o'u cynlluniau. Gall cymryd partner newydd a fydd eisiau rhywfaint o gyfranogiad yn y dyfodol, pa mor fach bynnag, fod yn benderfyniad heriol. 

Yn ei hanfod, mae’r dewis rhwng dau lwybr: 

  • Dechrau busnes o’r newydd hefo’r cyfalaf lleiafsymiol (gelwir hyn yn ‘bootstrapping’ yn y diwydiant), lle mae busnes yn tyfu'n organig gan ddefnyddio adnoddau a refeniw mewnol – gan ailfuddsoddi unrhyw elw yn effeithiol – gan gynnal perchnogaeth ond yn derbyn twf arafach ac opsiynau cyfyngedig o bosibl. 

  • Codi arian, lle rydych chi'n cyfnewid ecwiti am yr arian a'r arbenigedd sydd eu hangen i gyflymu eich cynllun. 

Nid yw'r naill na'r llall yn iawn nac yn anghywir. Mae'n fater o baru eich uchelgeisiau â'ch adnoddau a'ch awydd i fentro. Mae'n rhaid iddo deimlo'n iawn. Ond mae'r rhai sy'n llwyddo i godi arian fel arfer yn gwneud y penderfyniad yn gynnar ac yn fwriadol. Maen nhw'n deall beth maen nhw am ei gyflawni, pam mae angen cyllid allanol, a beth maen nhw'n fodlon ei rannu yn gyfnewid. 

2. Cynlluniwch eich taith codi arian 

Unwaith i chi oresgyn rhai rhwystrau seicolegol a gwneud y penderfyniad i godi cyllid allanol, mae cynllunio'n dechrau. Gall y cam hwn wahanu'r rhai sydd wedi paratoi oddi wrth y rhai sy'n gobeithio. 

Ar ei symlaf, mae cynllunio yn golygu trosi eich gweledigaeth yn daith twf sy'n argyhoeddiadol ac, yn hollbwysig, wedi'i seilio ar y rhifau: beth ydych chi am ei gyflawni, faint fydd yn ei gostio, a pha gerrig milltir fydd yn dangos cynnydd? Yn y pen draw, i ble rydych chi'n mynd a beth allai fod ynddo i fuddsoddwr? 

Mae'n bwysig cofio nad yw buddsoddwyr yn prynu eich syniad yn unig; maen nhw'n prynu eich cynllun gweithredu. Dylai'r cynllun hwnnw gynnwys: 

  • Gweledigaeth glir ar gyfer y cynnyrch, y farchnad a'r cyfle. 

  • Modelu ariannol sy'n amlinellu costau, rhagdybiaethau twf ac anghenion arian parod yn realistig. 

  • Cerrig milltir wedi'u diffinio, sy'n dangos sut mae pob cam ariannu yn cefnogi canlyniadau mesuradwy. 

  • Naratif ar sut fyddwch yn defnyddio arian sy'n egluro pam mae pob punt yn bwysig. 

Dyma hefyd yr amser i werthuso eich opsiynau ariannu. Mae cyfalaf menter yn un llwybr, ond mae yna rai eraill. Mae gan fuddsoddwyr angel, swyddfeydd teuluol, mentrau corfforaethol, cronfeydd cyd-fuddsoddi cyhoeddus, a phartneriaid strategol i gyd flaenoriaethau, disgwyliadau ac amserlenni gwahanol. 

Mae'n werth treulio amser yn ymchwilio i fanteision ac anfanteision y cyfan. Bydd gwneud y gwaith hwn ymlaen llaw yn arbed llawer o amser yn ddiweddarach. Does fawr o bwynt cyflwyno i gronfa y mae ei lefel buddsoddi gofynnol (a elwir yn docyn) yn £5 miliwn pan mai dim ond £100,000 sydd ei angen arnoch chi. Ac ystyriwch pwy rydych chi'n ei adnabod. Efallai eich bod chi eisoes yn adnabod y buddsoddwr delfrydol. 

Efallai'r pwysicaf oll, mae'r cam hwn yn ymwneud ag adrodd straeon. Mae codi arian yn ymarferiad mewn cyfathrebu. Rhaid i fuddsoddwyr ddeall eich stori'n gyflym: y broblem rydych chi'n ei datrys, y cynnydd rydych chi wedi'i gyflawni, a pham mae eich tîm mewn sefyllfa unigryw i ennill. 

Byddwch yn glir, ond arhoswch yn hyblyg. Mae gan y sylfaenwyr gorau gredoau cryf ond maent yn agored i fireinio eu dull wrth iddynt dderbyn adborth gan y farchnad. 

3. Paratowch y buddsoddwr 

Mae 'Parodrwydd am fuddsoddwr' yn un o'r ymadroddion a ddefnyddir fwyaf aml wrth godi arian, ond mae hefyd yn un o'r rhai pwysicaf. Ond nid yw bod yn barod am fuddsoddwr yn golygu dim ond cael syniad da. Mae'n golygu cael eich deunyddiau, eich data, a'ch meddylfryd yn barod i'w craffu. 

Mae rhai deunyddiau allweddol y bydd eu hangen arnoch chi yn cynnwys: 

  • Cyflwyniad marchnata cryno (10–15 sleid). 

  • Crynodeb gweithredol clir o'ch cynnig. 

  • Model ariannol sy'n cysylltu rhagolygon â strategaeth. 

  • Tabl syml sy'n dangos y strwythur perchnogaeth. 

  • Ystafell ddata (yn aml yn ddigidol) sy'n cynnwys deunyddiau diwydrwydd dyladwy: dogfennau cyfreithiol, contractau, hawliau eiddo deallusol (ED), metrigau cwsmeriaid, a rhagolygon. 

Ond y tu hwnt i'r gwaith papur, mae parodrwydd buddsoddwyr yn ymwneud â hygrededd. Mae buddsoddwyr yn asesu'r tri pheth hyn: 

1. Hygrededd – A yw eich naratif yn gyson? Ydych chi wedi cyflawni'r hyn a ddywedasoch y byddech chi'n ei gyflawni ers y sgwrs ddiwethaf? 

2. Dibynadwyedd – Ydych chi'n ymateb yn gyflym, yn cyflawni addewidion, ac yn trin cyfathrebu'n broffesiynol? 

3. Ymddiriedaeth – Ydyn nhw'n credu eich bod chi'n rhywun maen nhw eisiau gweithio gyda nhw am y pum mlynedd nesaf? 

Gall sylfaenydd sy'n gredadwy ac yn ymatebol yn aml wneud iawn am amherffeithrwydd cynnar mewn mannau eraill. 'Meddwl parod' yw'r hyn y mae pob buddsoddwr yn chwilio amdano. Mae'n arwydd eich bod wedi meddwl am senarios, wedi rhagweld cwestiynau anodd, ac yn barod i ymgysylltu'n ystyrlon. 

I gael gwybod mwy am baratoi i fod yn barod am fuddsoddwr, darllenwch ein canllaw, [ link] sy'n cynnwys rhestr wirio parodrwydd am fuddsoddwr. 

4. Allgymorth ac adeiladu perthnasoedd 

Unwaith y bydd eich deunyddiau'n barod, mae'n bryd mynd ati i ymgysylltu. Ond nid ymarfer gwasgaredig yw codi arian: mae'n strategol, yn drefnus, ac yn y pen draw yn ymarfer adeiladu perthynas. 

Meddyliwch amdano fel carwriaeth. Anaml y bydd buddsoddwyr yn ymrwymo ar ôl un cyfarfod. Maent yn arsylwi, yn cwestiynu, ac yn meithrin argyhoeddiad yn raddol. Gall y broses hon gymryd amser. Er ei bod hi'n amhosibl rhoi unrhyw fath o amserlen ar hyn, nid yw'n anarferol i'r broses hon bara chwe mis neu fwy. 

Dechreuwch arni yn gynt nag yr ydych yn tybio bod angen 

Un cyngor da yw meithrin perthnasoedd cyn bod angen yr arian arnoch. Mae sylfaenwyr sy'n dechrau sgyrsiau'n gynnar, boed hynny mewn cynadleddau, digwyddiadau cyflwyno, neu drwy gysylltiadau cydfuddiannol, yn cael mantais enfawr. Pan ddaw'r amser i godi arian, mae'r perthnasoedd hynny eisoes yn gynnes. 

Byddwch yn strategol 

Ymchwiliwch i bortffolios buddsoddwyr. Byddwch yn drefnus o ran pwy rydych chi'n mynd atynt – a sut. Targedwch gronfeydd sy'n buddsoddi yng nghyfnod eich busnes ac yn eich sector. Personolwch eich allgymorth. 

Cyfathrebwch yn glir 

Ar ôl pob cyfarfod, anfonwch ddilyniant cryno yn crynhoi'r pwyntiau allweddol a'r camau nesaf. Yn aml, mae buddsoddwyr yn dweud mai dilyniant gwael yw un o'r rhesymau mwyaf cyffredin pam mae busnesau da yn colli momentwm 

Yn anad dim, cofiwch mai gyda pobl mae pobl yn gwneud deliau / bargeinion. Mae data yn bwysig, ond ymddiriedaeth a chydberthynas sy'n llywio penderfyniadau. Mae buddsoddwyr eisiau gwybod pan fydd heriau'n codi – ac mi fyddant – ac y byddwch yn cyfathrebu'n agored ac yn cydweithio'n adeiladol. 

5. Negodi a diwydrwydd dyladwy 

Unwaith y bydd buddsoddwr yn mynegi diddordeb o ddifri, rydych chi'n symud ymlaen i drafod a diwydrwydd dyladwy. Dyma lle mae egwyddorion yn cwrdd â’r ymarfer. Bydd buddsoddwyr yn profi eich rhagdybiaethau, eich rhagolygon, eich cynllun cyflogi, eich llwybr i'r farchnad. Byddan nhw eisiau deall nid yn unig beth rydych chi'n ei wneud, ond sut y byddwch chi'n ymateb pan nad yw pethau'n mynd yn unol â’r cynllun. 

Disgwyliwch i'r cyfnod hwn fod yn drylwyr ac yn heriol. Nid yw buddsoddwyr yn ceisio eich baglu; maen nhw'n ceisio cadarnhau bod ganddyn nhw ymddiriedaeth dda ynoch chi. 

Dylech ddisgwyl i ddiwydrwydd dyladwy gynnwys: 

  • Adolygiad ariannol (refeniw, elw, rhagolygon). 

  • Gwiriadau cyfreithiol ac eiddo deallusol (perchnogaeth, contractau, rhwymedigaethau). 

  • Diwydrwydd dyladwy tîm (rolau allweddol, ymrwymiadau, ecwiti). 

  • Dilysu'r farchnad (cystadleuwyr, cwsmeriaid, graddadwyedd). 

Drwy gydol y cam hwn, cyfathrebu yw popeth. Os bydd problem yn codi - efallai bod contract heb ei lofnodi neu fod amddiffyniad ED yn anghyflawn – yna dylech gydnabod  hynny, esboniwch sut rydych chi'n mynd i'r afael ag ef, a dilynwch i fyny. Mae tryloywder yn meithrin ymddiriedaeth; mae osgoi yn ei ladd. 

6. Y broses gyfreithiol 

Unwaith y bydd penawdau'r telerau wedi'u cytuno, bydd cyfreithwyr yn drafftio'r ddogfennaeth fanwl. Gall hyn gymryd rhwng pedair a deg wythnos, yn dibynnu ar gymhlethdod ac ymatebolrwydd. 

Weithiau mae sylfaenwyr yn tanamcangyfrif pa mor fanwl yw'r broses hon. Mae pob cymal, o hawliau bwrdd i ddewisiadau diddymu i warantau, yn bwysig. Ceisiwch gyngor, gofynnwch gwestiynau, a deallwch beth rydych chi'n ei lofnodi. 

7. Cau'r fargen 

Pan fydd y telerau wedi'u cwblhau a'r dogfennau wedi'u llofnodi, trosglwyddir yr arian, a chwblheir y fargen. Ond nid dyna'r diwedd – ymhell ohono. Mae'n ddechrau taith newydd. 

Mae cau'r fargen yn nodi newid yn y berthynas. Mae gennych chi bartneriaid yn eu lle erbyn hyn sydd wedi credu digon yn eich gweledigaeth i fuddsoddi – i roi arian i chi. Byddwch chi nawr yn rhannu'r risgiau a'r gwobrau sydd o'ch blaen. Ond rydych chi hefyd yn un tîm nawr – mae'n newid pwysig a chyflym yn y deinameg. 

Amserlenni codi arian 

Pa mor hir mae'n ei gymryd i gyrraedd y pwynt hwn? Yn realistig, i'r rhan fwyaf o fusnesau technoleg cam cynnar: 

  • Paratoi a chynllunio: 1–3 mis 

  • Allgymorth ac ymgysylltu: 3–6 mis 

  • Diwydrwydd dyladwy a chyfreithiol: 2–3 mis 

Mae hynny tua chwech i ddeuddeg mis o'r dechrau i'r diwedd, gan dybio cynnydd cyson. Gall bargeinion gau'n gyflymach. Mae rhai'n cau o fewn pump neu chwe wythnos. Ond dyna'r eithriad, nid y rheol. 

Mae ymatebolrwydd bron bob amser yn newidyn pwysig. Mae sylfaenwyr sy'n gyrru'r broses, yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd, ac yn cadw cyfathrebu'n llifo yn symud yn gyflymach. Gall diweddariadau wythnosol wneud y gwahaniaeth rhwng momentwm a symudiad. 

Awgrymiadau ar gyfer cyflymu'r broses 

Er nad oes llwybr byr gwyrthiol, mae yna ffyrdd o gyflymu pethau o bosibl: 

1. Dechreuwch yn gynnar. Adeiladwch berthnasoedd cyn i chi fod angen y cyfalaf. 

2. Byddwch yn drefnus. Cadwch ystafell ddata fyw a manylion ariannol cyfredol. 

3. Byddwch yn glir ynglŷn â'ch cais. Sicrhewch eich bod yn gwybod yn union faint rydych chi'n ei godi a pham. 

4. Gyrrwch y broses. Cymerwch berchnogaeth dros ddilyniannau ac amserlenni. 

5. Ceisiwch gyngor. Gall mentoriaid a sylfaenwyr profiadol eich helpu i osgoi peryglon cyffredin. 

6. Cyfathrebwch yn agored. Mae momentwm yn ffynnu gydag eglurder. 

Yn gryno 

Mae'n bwysig cofio bod codi arian yn daith ariannol a seicolegol. Nid dim ond sicrhau cyfalaf ydyw, mae'n ymwneud ag adeiladu partneriaethau a all gyflymu twf, adeiladu gwerth, a helpu i gyflawni eich nodau. Mae sylfaenwyr llwyddiannus yn trin y broses fel un barhaus: maent yn cynllunio'n gynnar, yn cyfathrebu'n glir, ac maent bob amser yn barod i fuddsoddwyr. 

Mae paratoi yn allweddol. Bydd cynllun busnes cadarn, data credadwy, a stori gymhellol yn rhoi'r hyder sydd ei angen ar fuddsoddwyr. Dylai sylfaenwyr ganolbwyntio ar greu gwerth go iawn rhwng rowndiau, cyrraedd nodau, cynnal tyniant masnachol, a hyrwyddo eu cynnyrch neu gynnig. 

Mae perthnasoedd wrth wraidd pob gweithgaredd codi arian. Mae buddsoddwyr yn cefnogi pobl cymaint â syniadau, felly mae ymddiriedaeth, cysondeb ac ymatebolrwydd yr un mor bwysig â metrigau ariannol. Mae trafodaethau a diwydrwydd dyladwy yn drylwyr, ond gallant hefyd helpu i feithrin ymddiriedaeth. 

Yn olaf, cofiwch nad yw cau bargen yn cynrychioli'r llinell derfyn - mae'n ddechrau partneriaeth newydd. Mae'r sylfaenwyr gorau yn deall bod codi cyfalaf yn ymwneud â chysoni uchelgais â disgyblaeth, sicrhau cynghreiriaid, a gosod y sylfaen ar gyfer creu gwerth hirdymor. Paratowch yn gynnar, cyfathrebwch bob amser, a chadwch ffocws ar y nod terfynol.