10 awgrym rhwydweithio ar gyfer digwyddiadau

Portrait of Sophie Perry
Swyddog Ymgyrchoedd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
networking event

Gall digwyddiadau rhwydweithio fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, datblygu cysylltiadau newydd a dysgu am gyfleoedd posibl i chi a’ch busnes.

Fodd bynnag, nid yw digwyddiadau rhwydweithio mor syml ag y maen nhw’n ymddangos, yn enwedig os ydych chi’n mynd i ddigwyddiad am y tro cyntaf. Felly mae’n bwysig dysgu sut i lywio drwy’r broses rwydweithio’n effeithiol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a gaiff eu cyflwyno i chi.

Gan eu bod yn gweithio gyda busnesau ledled y wlad, mae cydweithwyr ym Manc Datblygu Cymru yn rhwydweithwyr profiadol, sy’n gwybod sut i ymgysylltu â busnesau a chael gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw.

Fe wnaethon ni siarad â rhai o’n cydweithwyr i ofyn am yr awgrymiadau a’r cyngor gwych y bydden nhw’n eu rhoi i rywun sy’n newydd i’r byd rhwydweithio, a sut i’w wneud yn werth chweil.

Dyma ein hawgrymiadau ar gyfer yr hyn y mae angen i chi ei wybod pan fyddwch yn mynd i’ch digwyddiad rhwydweithio nesaf:

1. Byddwch yn barod ar gyfer eich digwyddiad

Rydych chi eisiau cynrychioli eich busnes yn y ffordd orau bosibl, felly mae paratoi yn hanfodol. Mae’n ddefnyddiol gwybod eich pwrpas a’ch nodau ymlaen llaw er mwyn i chi wybod yn union beth rydych chi’n ceisio ei gyflawni.

Does gennych chi ddim llawer o amser i greu argraff ar ddarpar gleientiaid, felly dylech baratoi cyflwyniad 30 eiliad ymlaen llaw. Bydd hyn yn eich galluogi i fod yn gadarn wrth gyflwyno eich busnes. Dylech feddwl am y rheswm pam rydych chi’n dod i’r digwyddiad, beth rydych chi’n ei gynnig, beth mae eich sefydliad yn ei wneud, ac unrhyw wybodaeth allweddol rydych chi eisiau ei chyfleu.

2. Ystyried beth rydych chi ei eisiau o rwydweithio

Mae amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau rhwydweithio ar gael, sy’n amrywio o ddigwyddiadau mwy y telir amdanyn nhw lle mae disgwyl i’r rhai sy’n bresennol gyflwyno’n rheolaidd, i ddigwyddiadau llai ffurfiol sy’n agored i bawb sydd â diddordeb mewn bod yn bresennol.

Treuliwch ychydig o amser yn meddwl pam rydych chi eisiau rhwydweithio, a’r math o bobl rydych chi’n awyddus i wneud cysylltiadau â nhw – a fydd yn eich helpu i ganolbwyntio ar gael yr hyn rydych chi ei eisiau o bob digwyddiad.

Dywedodd James Ryan, Swyddog Buddsoddi yn ein tîm Micro Fenthyciadau: “Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau rhwydweithio ar gael bob amser ac maen nhw i gyd yn wahanol iawn i’w gilydd, felly mae angen i chi feddwl am yr hyn rydych chi ei eisiau a’r math o ymrwymiad y gallwch chi ei wneud o ran mynd i ddigwyddiadau, os oes angen i chi fynd yn rheolaidd.”

3. Gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt ar gael bob amser

Pryd bynnag y byddwch chi’n mynd i ddigwyddiad, gwnewch yn siŵr bod gennych chi nifer addas o gardiau busnes i’w rhoi i bobl. Bydd hyn yn caniatáu i bobl gysylltu â chi os ydyn nhw am barhau â’r sgwrs gychwynnol.

Yn y byd digidol hwn, bydd llawer o randdeiliaid yn ceisio rhannu eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel LinkedIn neu gardiau busnes digidol, felly gwnewch yn siŵr bod eich holl broffiliau’n cael eu sefydlu a’u diweddaru.

4. Bod yn hyderus

Cofiwch – mae pawb yn y digwyddiad rhwydweithio yno i siarad â phobl eraill, a chlywed am eu busnesau, eu profiadau a’u syniadau. Does dim rhaid i chi deimlo’n swil – maen nhw eisiau siarad â chi!

Ni fydd pob sgwrs a gewch chi’n arwain at gysylltiad busnes newydd, ond mae hynny’n iawn. Y peth pwysig yw cofio eich bod chi yno er mwyn rhoi ymdeimlad o bwy ydych chi, beth rydych chi’n ei wneud, a gwneud y cysylltiadau pwysig hynny a fydd yn helpu i roi hwb i’ch busnes.

Ychwanegodd ein cydweithiwr James Ryan “Dylech bob amser fod yn barod i fynd y tu hwnt i’ch ffiniau cyfforddus a chwrdd â mwy o bobl lle gallwch chi – gorau po fwyaf o bobl sy’n eich adnabod chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud! Cofiwch y bydd pobl wir yn gwerthfawrogi dod i wybod mwy amdanoch chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud. Ac er bod cymaint i’w ddysgu, byddwch bob amser yn barod i ofyn i bobl am adborth. Mae yna rwydweithwyr cyfresol ar gael a fydd yn unigolion profiadol ac yn hapus i roi cyngor i chi.”

5. Mae siarad a gwrando yr un mor bwysig â’i gilydd

Gall fod yn anodd barnu faint y dylech siarad wrth sgwrsio â rhanddeiliaid mewn digwyddiadau.     

Mae’n bwysig peidio â llethu pobl. Does dim angen i chi geisio gwneud pob sgwrs yn gyflwyniad gwerthu. Mae’r sgwrs gychwynnol yn ymwneud â meithrin perthynas ag unigolyn/unigolion. Os oes ymgysylltu cadarnhaol, gallwch feithrin ymddiriedaeth rhwng eich gilydd, a gall hyn arwain at berthynas a fydd yn sbarduno sgyrsiau pellach.

Os ydych chi mewn digwyddiad prysur, gall fod yn anodd gwrando a rhoi eich holl sylw i bob unigolyn. Ond mae hyn yn elfen hanfodol o rwydweithio. Heb fod yn sylwgar, dydych chi ddim yn gwybod am beth mae’r unigolyn yn chwilio, nac a oes unrhyw werth i’r sgwrs. Mae rhywun sy’n gallu gwrando’n dda yn wych o ran meithrin cysylltiadau newydd.

Dywedodd Tom Preene, Rheolwr Gweithrediadau i Angylion Buddsoddi Cymru: “O safbwynt darpar angylion buddsoddi yn ogystal â busnesau newydd, po fwyaf y byddwch chi’n rhwydweithio, y mwyaf y gallwch chi wneud pobl yn ymwybodol o bwy ydych chi a beth rydych chi’n ei wneud. Mae’n rhoi cyfle i chi ddod o hyd i bethau sy’n gyffredin rhyngoch chi a busnesau neu entrepreneuriaid eraill, a chysylltu â’r rheini sydd â diddordebau neu nodau sy’n cyd-fynd â’ch rhai chi.

“Dydy angylion buddsoddi yn benodol ddim yn ceisio gwneud cysylltiadau â buddsoddwyr eraill er mwyn gwneud arian yn unig. Maen nhw’n ei weld yn broses ddiddorol ac mae’n caniatáu iddyn nhw dreulio amser gyda phobl maen nhw’n mwynhau treulio amser gyda nhw. A beth bynnag fo’r sector, maen nhw bob amser eisiau i unigolion wneud argraff arnyn nhw yn hytrach na busnesau, syniadau neu gynigion, felly mae’n hollbwysig eich bod yn manteisio ar y cyfle i rwydweithio wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn creu awyrgylch gyfforddus ac yn magu hyder gyda darpar fuddsoddwyr.”

6. Gofyn cwestiynau diddorol

Mae’n ddefnyddiol cael rhestr o gwestiynau ar ôl i chi ymgysylltu â rhanddeiliad. Bydd hyn yn eich galluogi i ddysgu llawer am eu maes, eu busnes a sut gallai eich perthynas ddatblygu.

Mae pobl wrth eu bodd yn siarad amdanyn nhw eu hunain, a thrwy ymgysylltu drwy gydol eich sgwrs, gall hyn eich galluogi i feithrin perthynas wrth i chi ddangos diddordeb a chael gwybodaeth ar yr un pryd.

Mynd ar drywydd unrhyw un y buoch yn siarad â nhw

Holl bwrpas digwyddiadau rhwydweithio yw meithrin cysylltiadau newydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd camau dilynol yn y dyddiau ar ôl y digwyddiad. Os nad ydych chi, rydych chi’n colli cyfle gwych i ddatblygu’r sgwrs gychwynnol a gallech chi dorri’r broses rwydweithio.

Mae bob amser yn syniad da eu hatgoffa o bwy ydych chi a beth sydd gan eich busnes i’w gynnig a gweld a oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn siarad ymhellach. Fodd bynnag, peidiwch â digalonni os nad ydych chi’n cael ymateb ganddyn nhw – mae’r cyfan yn rhan o’r broses ddysgu o rwydweithio.

7. Meddwl am strategaeth ymadael

Weithiau gallwch fod yn sownd mewn sgyrsiau gyda’r rheini nad ydyn nhw’n cynnig fawr o werth i’r hyn rydych chi’n ceisio ei ennill o ddigwyddiadau rhwydweithio. Gall hyn fod yn anodd pan nad oes gennych lawer o amser i ymgysylltu ag eraill.

Felly mae bob amser yn braf cael ffordd gwrtais o ddod â sgwrs i ben er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle mae’r digwyddiad yn ei gynnig i chi. Gallwch ddefnyddio datganiad clo ochr yn ochr â rhoi eich manylion cyswllt, gan nad ydych chi byth yn gwybod pa gyfleoedd allai ddod o sgwrs.

8. Rhoi cynnig ar wahanol ddigwyddiadau

Mae’n hanfodol meithrin cysylltiadau yn eich cymuned leol, gan fod hyn yn eich galluogi i ddod o hyd i bobl o’r un anian â chi. Ond weithiau gallwch fynd i ddigwyddiad a sylweddoli nad yw’n addas i chi, sy’n gallu bod yn rhwystredig.

Os nad ydych chi’n mwynhau un profiad rhwydweithio, peidiwch â digalonni. Mae llawer o ddigwyddiadau rhwydweithio gwahanol ar-lein sy’n gallu bod yn addas i chi, felly mae’n bwysig rhoi cynnig ar rai gwahanol a gweld pa ddigwyddiadau sy’n gweithio i chi.

Dywedodd Claire Vokes, Uwch Swyddog Gweithredol Buddsoddi: “Efallai nad yw rhai digwyddiadau yn addas i chi, ond byddwch yn dod o hyd i’r grŵp sy’n addas i chi. Yn enwedig mewn grwpiau mwy lleol neu ranbarthol, lle mae cymunedau bach busnes lle gallwch feithrin cysylltiadau da yn gyflym. Ond cofiwch y bydd yn rhaid i bobl ymddiried ynoch chi cyn y byddan nhw’n gwneud busnes gyda chi.

“Ac er ei bod hi’n hawdd mynd ar goll ymysg pobl yn y mathau hynny o ddigwyddiadau, rhowch sylw i’r sawl rydych chi’n siarad ag ef, a cheisiwch ddeall ble maen nhw ar eu taith fusnes. Mae’n ddigon posibl y byddwch chi’n gallu eu helpu gymaint ag y gallan nhw eich helpu chi.

“Ac mae cyfleoedd bob amser i fynd y tu hwnt i sgwrsio â phobl un-i-un – cadwch lygad am gyfleoedd i arddangos neu gyflwyno eich gwaith eich hun i gynulleidfa fwy.”

9. Dysgu o’ch profiadau

Dyfal donc... Ni all pawb feistroli rhwydweithio’n effeithiol ar unwaith. Gall hyn gymryd amser i ddeall beth sy’n gweithio a beth sydd ddim.

Os ydych chi’n siarad â rhwydweithwyr cyfresol, peidiwch â bod ofn gofyn am adborth – byddan nhw’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud a byddan nhw’n gallu cynnig cyngor gwych i helpu i wella eich dull o rwydweithio. Gall unrhyw adborth helpu i fireinio eich dull gweithredu a chynyddu’r siawns o rwydweithio’n fwy effeithiol yn y dyfodol.

10. Cymerwch eich camau cyntaf

Gall rhwydweithio ymddangos yn fyd cymhleth i’r rheini nad ydyn nhw wedi arfer ag ef. Ond drwy gamu iddo, rydych chi’n cael cyfle i agor drysau newydd a gwneud cysylltiadau hollbwysig â phobl na fyddech chi’n cwrdd â nhw fel arall – ac weithiau, dyna sydd ei angen i fynd â’ch busnes neu’ch cynnig i’r lefel nesaf.

Felly cofiwch – byddwch yn hyderus a byddwch yn barod i siarad â phobl a chysylltu â nhw wedi hynny.

Nawr ewch amdani a chymryd y cam nesaf hwnnw – pob lwc!

Be' nesaf?

Eisiau trafod mwy ar bethau? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni. 

Cysylltu â ni