Rydyn ni'n gweithio'n agos gydag ystod o gyfryngwyr gan helpu eu cleientiaid i gael y cyllid sydd ei angen arnynt.
Gallwn weithio gyda chi a'ch cleientiaid ar:

o gronfeydd o dan reolaeth
- Busnesau sy'n dechrau ac yn ystod eu cyfnod cynnar
- Dod o hyd i aelodau'r bwrdd a Chyfarwyddwyr Anweithredol
- Ehangu'n rhyngwladol
- Masnachu technoleg
- Prynu neu ehangu eiddo
- Bargeinion olyniaeth a chaffael
Banciau ac arianwyr eraill
Rydym yn gyd-fuddsoddwr ymrwymedig gydag ymagwedd gadarnhaol.
- Gallwn gyd-ariannu bargeinion benthyciadau lle nad yw eich gofynion credyd yn cael eu bodloni
- Gallwn gymryd lle benthyciad eilaidd y tu ôl i arianwyr eraill os oes angen
- Byddwch chi'n gallu cynnal eich perthynas â'r cwsmer gan gynnwys y gwasanaethau bancio
Mae ein perthynas ni gyda Llywodraeth Cymru yn golygu ein bod yn gallu gweithio ochr yn ochr â mathau eraill o gymorth megis grantiau.
Cynghorwyr Cwmni
Rydyn ni’n gweithio'n agos ar ystod o fargeinion gyda chyfrifwyr, ymgynghorwyr busnes, cynghorwyr ariannol, cyllidwyr corfforaethol a chyfreithwyr. Yn benodol, mae gweithio gyda ni yn cynnig y manteision a ganlyn:
- Ein gwasanaeth cwsmer ardderchog – byddai 99% o gwsmeriaid newydd yn ein hargymell ni *
- Rydym ni’n ymgysylltu eich cleientiaid chi gyda’n portffolio o berchnogion busnes sydd o’r un meddylfryd
- Rydyn i’n rhannu ein gwybodaeth marchnad trwy gyfrwng seminarau wedi eu teilwrio ar eich cyfer chi a’ch cleientiaid
- Gall ein cefnogaeth olyniaeth sicrhau bod eich perthynas barhaus gyda'r cwmni yn cael ei chynnal
Cysylltwch â ni
Os ydych chi'n awyddus i helpu'ch cwsmeriaid i sicrhau’r arian y mae arnynt ei angen, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cysylltu gydag un o'n timau buddsoddi.
* Yn seiliedig ar sampl o arolwg adborth cwsmeriaid o 125 o fusnesau rhwng Ebrill 2016 a Mai 2017