Rydym yn gyd-fuddsoddwr ecwiti ymrwymedig ac rydym yn darparu cyfleoedd parod-ar-gyfer-buddsoddi o'n portffolio.
Pam cyd-fuddsoddi gyda ni?

o gwmnïau yn ein portffolio ecwiti.
- Cawsom ein henwi fel un o'r prif fuddsoddwyr ecwiti yn y DU *
- Mynediad at fargen technegol â llif cyffrous, oddi ar y farchnad yn gyffredinol
- Llif bargeinion o gwmnïau parod am fuddsoddiad o'n portffolio
- Ecwiti ar gael dros rowndiau lluosog
- Perthnasau cryf, grymusol ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru
Cyd-fuddsoddwr ecwiti ymrwymedig
Rydym yn gyd-fuddsoddwr ecwiti ymrwymedig sy'n ymroddedig i sicrhau bod busnesau Cymru yn sicrhau'r cyllid sydd ei angen arnynt a chael effaith ar Gymru o ganlyniad.
Rydym yn ystyried fod buddsoddiad cychwynnol a chyllid yn bartneriaeth. Ein nod ni yw adeiladu perthynas sy'n para gyda buddsoddwyr eraill dros rowndiau lluosog. Rydym yn gweithio gyda:
- Buddsoddwyd sefydliadol penodol-i-sector
- Buddsoddwyr corfforaethol o fusnesau rhyngwladol
- Tai cyfalaf menter
- Angylion busnes
Mae gennym rwydwaith mawr o gyfarwyddwyr anweithredol (CAn), cynghorwyr busnes, a gweithwyr buddsoddi proffesiynol eraill ac rydym yn aml yn buddsoddi gyda Buddsoddiadau Angylion Cymru.
Fe allwn gynnig cyfle i fuddsoddwyr weithio gyda chwmnïau sy'n barod i fuddsoddi o'n portffolio a'n bargeinion cyd-ariannu lle mae angen nifer o fuddsoddwyr.
Ein cronfeydd
Rydym yn cael ein hariannu gyda chymysgedd o gyllid preifat a chyhoeddus. Ar hyn o bryd rydym yn rheoli deg cronfa fuddsoddi sy'n werth dros £1 biliwn ac fe allwn gynnig buddsoddiad ecwiti hyd at £5 miliwn. Gyda chyllid ariannu yn ei le ar gyfer y deng mlynedd nesaf, gallwn gefnogi ein cwsmeriaid a'n cyd-fuddsoddwyr dros rowndiau buddsoddi lluosog.
Cyd-fuddsoddwyr rydym ni'n gweithio â nhw
Cyd-fuddsoddwr ymroddedig i dechnoleg
Rydym yn fuddsoddwr arbennig o weithgar mewn buddsoddiadau menter technoleg sy’n cynnig gwobrwyon uwch / risg uwch.
Gyda thîm buddsoddiadau technoleg pwrpasol, gallwn gynnig mynediad at fargeinion llif technoleg cyffrous, oddi ar y farchnad yn gyffredinol i fuddsoddwyr yng Nghymru.
Gydag ystod o gronfeydd, gallwn fuddsoddi ar draws ystod o sectorau a diwydiannau technoleg, gan gynnwys:
- Peirianneg, electroneg, ac opteg
- TGCh, meddalwedd, AI ac apps
- Gwyddorau Bywyd, MedTech a BioTech
- Rhyngrwyd o bethau (RhoB)
"Rydyn ni wedi cyd-fuddsoddi gyda'r tîm technoleg ar ystod o rowndiau cychwynnol, cyfnod cynnar a dilynol. Rydym yn mwynhau ein strategaethau buddsoddi a rennir ac rydym yn bwriadu cydweithio ychwaneg."
Cyd-fuddsoddwyr technoleg yr ydym ni’n gweithio â nhw
Ymadawiadau
Mae'r ymadawiadau nodedig diweddar yn cynnwys:
- Wholebake – enillion lluosog o 5.23 ar y buddsoddiad
- Vista Retail Support – enillion lluosog o 4.47 ar y buddsoddiad
- Unite – enillion lluosog o 2.61 ar y buddsoddiad
- SIPHON – enillion lluosog o 2.11 ar y buddsoddiad
- Hudman – enillion lluosog o 1.7 ar y buddsoddiad
- Imspex – enillion o 1.26 ar y buddsoddiad ar ymadawiad rhannol
Yn ogystal ag ymadawiadau, rydym hefyd wedi cefnogi chwe chwmni trwy gyfrwng cynnig cyhoeddus cychwynnol (CCC) ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (MBA).
Ar hyn o bryd mae gennym fwy na 80 o gwmnïau yn ein portffolios ecwiti.
Cysylltu â ni
Os ydych chi eisiau gwybod mwy cysylltwch â ni
*Ffynhonnell: Adroddiad Buddsoddiadau Ecwiti yn y DU 2016