Anna Morgans

Ymunodd Anna â'r busnes yn 2009 fel Uwch Reolwr Strategaeth ac mae hi wedi gweithio ar nifer o brosiectau allweddol ers hynny gan gynnwys datblygu'r cronfeydd a'r gwasanaethau a gynigiwn yn ogystal â throsglwyddo'r sefydliad o Gyllid Cymru i Fanc Datblygu Cymru yn 2017.

Yn 2025 cafodd ei phenodi'n Gyfarwyddwr Strategaeth ac mae ganddi gyfrifoldeb am ddatblygu cynhyrchion newydd, cynllunio blynyddol a chorfforaethol, ein strategaeth gynaliadwyedd yn ogystal â'n cangen ymchwil, Dirnad Economi Cymru.

Cyn ymuno â'r Banc Datblygu, bu Anna'n gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer cangen farchnata cronfeydd ecwiti preifat a oedd yn cynnwys goruchwylio ei swyddfeydd ym Malawi. Mae gan Anna radd mewn Economeg ac MBA.