Boni Koneti-Ash

Mae fy rôl yn cynnwys monitro ein portffolio micro fenthyciadau a chadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid yn ddyddiol. Fy nghyfrifoldebau yw sicrhau ein bod yn cynnal ein safonau i gwsmeriaid ac yn cefnogi busnesau yn fasnachol leded Cymru. 

Ymunais â’r Banc Datblygu yn 2024, ac rwy’n gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Cyn hynny, ro’n i’n gweithio i’r Cooperative Bank. Ro’n i’n darparu cymorth i gwsmeriaid manwerthu o ran eu hanghenion bancio, gan gynnwys trefnu gorddrafft, cardiau credyd, bancio ar-lein a llawer mwy. 

Mae gen i radd Baglor mewn Masnach gydag Anrhydedd (B.Com Hons) mewn Cyllid Rhyngwladol o Brifysgol Johannesburg yn Ne Affrica. Mae gen i hefyd Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) o Brifysgol Nelson Mandela.