Ceri Evans

Mae fy swydd yn rhoi cyfle i mi gefnogi busnesau lleol gyda phecynnau cyllido pwrpasol i alluogi twf, ac i greu a diogelu swyddi. Ar ôl cael fy magu yng ngogledd Cymru, rydw i’n deall yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cwmnïau yn yr ardal.

Ymunais â Banc Datblygu Cymru ym mis Mehefin 2024 ac rydw i’n gweithio yn ein swyddfeydd yn y gogledd, yn cefnogi amrywiaeth eang o gwsmeriaid.

Treuliais 22 mlynedd yn fy swydd flaenorol gyda NatWest. Yn ystod y cyfnod hwn, bûm yn gweithio’n bennaf ym maes bancio busnes fel rheolwr cysylltiadau, yn cefnogi busnesau gogledd Cymru ar draws sectorau amrywiol gan gynnwys hamdden, masnachu cyffredinol, gofal iechyd, amaethyddiaeth ac eiddo.

Mae gennyf radd mewn Rheoli, Bancio a Chyllid o Brifysgol Bangor, ac rwyf wedi cwblhau fy Nhystysgrif Banciwr Siartredig mewn Ymarfer Bancio Busnes 1 yn 2015.