Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Clare Thomas

Mae gen i dros 35 mlynedd o brofiad ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid ac rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys yswiriant a chymorth busnes gyda Banc Datblygu Cymru.

Ymunais â’r tîm yn 2025, ac rwyf i’n gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Rwy’n frwd dros gysylltu gydag ymgeiswyr a rhanddeiliaid er mwyn canfod yr atebion cyllid sy’n gweddu i’w hamgylchiadau unigryw orau o’n portffolio helaeth o gynlluniau amrywiol.

Rydym ni’n gweithio gydag amrywiaeth o wahanol fusnesau ac unigolion fel rhan o Gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru. Rwyf i’n ymfalchïo yn fy ngwaith ac yn falch o allu helpu perchnogion tai yng Nghymru i gael gafael ar y cyllid allweddol i roi arferion ecogyfeillgar ar waith, gan gyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy. 

Yr hyn sy’n gwneud fy swydd yn werth chweil yw natur gydweithredol Banc Datblygu Cymru. Rwyf i'n aml yn gweithio gyda gwahanol adrannau er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael cymroth cynhwysfawr ar gyfer eu hanghenion ariannol.