Jack Eadie

Mae gan sylfaenwyr ddigon ar eu platiau yn barod, felly fy rôl i yw helpu i wneud y daith ychydig yn haws.

Rwy'n gweithio gyda mentergarwyr uchelgeisiol i sicrhau'r cyllid sydd ei angen arnynt, llywio'r heriau sy'n dod gyda thwf a chysylltu â'r bobl gywir i helpu i gyflymu eu huchelgeisiau.

Gan fy mod i wedi bod yn sylfaenydd ac yn gyfalafwr menter, rwy'n deall yn uniongyrchol beth yw realiti adeiladu a chynyddu graddfa busnes. Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi buddsoddi ar draws nifer o gronfeydd ac wedi cefnogi busnesau sydd wedi mynd ymlaen i fod yn ungyrn. Heddiw, fy ffocws yw dod o hyd i'r genhedlaeth nesaf o fusnesau twf uchel yng Nghymru a'u cefnogi, gyda'r uchelgais o helpu i greu'r ungorn Cymreig cyntaf.

Y tu allan i'r gwaith, fel arfer byddwch chi'n dod o hyd i mi'n chwarae sboncen, yn mynd allan i'r awyr agored neu'n mwynhau’r her o ddrochfa yn y môr pan fo hwnnw’n oer. Rydw i hefyd yn wrandäwr podlediadau brwd, rydw i bob amser yn awyddus i glywed safbwyntiau newydd ar fenter, technoleg a busnes, ac rwy’n mwynhau cyfresi yn seiliedig ar droseddau go iawn yn achlysurol.