Mollie Brodie

Mae'n gweithio gyda chydweithwyr ar draws y busnes i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau effeithiol, rheoli risg cadarn ac amgylchedd rheoli positif.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, adeiladodd Mollie ei gyrfa ym maes sicrwydd risg ac archwilio mewnol, gan arbenigo mewn technoleg, llywodraethu a diogelu data. Fel aelod o'n uwch dîm rheoli, mae'n angerddol dros reoli risg mewn ffordd ymarferol sy’n cefnogi arloesi a thwf.

Y tu allan i'r gwaith, mae Mollie yn ymwneud yn weithredol â phêl-rwyd ac wedi ymgymryd â rolau arwain a hyfforddi ar draws llwybrau cymunedol a pherfformiad.