Sarah Albrighton

Rydw i’n cefnogi busnesau Cymru i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i gyflawni eu nodau.

Ymunais â’r Banc Datblygu yn 2023. Rydw i’n gweithio yn y swyddfeydd yn Llanelli a Chaerdydd, er mwyn i mi allu cefnogi amrywiaeth eang o fusnesau ar draws pob sector yng Nghymru.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, roeddwn yn gweithio i Fanc HSBC. Mae gennyf 16 mlynedd o brofiad ym maes bancio masnachol, lle’r oeddwn yn rheoli portffolio o fusnesau bach a chanolig – gyda throsiant blynyddol o hyd at £15m.