ACAI

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio

Mae’r gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru eleni wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf anhygoel. Ar ôl gweithio mor galed i adeiladu ein busnes dros y pum mlynedd diwethaf, roeddem yn wynebu rhai dewisiadau eithaf anodd ar ddechrau'r cyfnod cloi cenedlaethol cyntaf. Rhoddodd y benthyciad y cyfalaf inni i ariannu stoc a’r hyder i barhau â’n cynlluniau twf gan wybod bod gennym ddiogelwch y tu ôl inni.

Joe Bromley, Prif Weithredwr

Wedi’i leoli yn Sir y Fflint, ACAI yw’r cyntaf o’i fath ym myd dillad awyr agored - ‘a wnaed gan ferched ar gyfer merched’.

Cafodd y cwmni ei sefydlu gan Kasia a Joe Bromley yn 2016 ac maen nhw’n gwbl benderfynol mai nhw fydd y brand dillad awyr agored mwyaf poblogaidd i ferched yn y DU a ledled y byd.

Mae £100,000 o Gynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru wedi galluogi'r cwmni i barhau â'u cynlluniau twf a chreu pum swydd newydd yn ystod Covid-19.