Trosolwg o'r busnes
Mae ALS Managed Services, sy'n masnachu fel ALS People, yn ddarparwr atebion gweithlu a reolir o Gaerffili sy'n gweithredu ledled y DU.
Wedi'i sefydlu yn 2011, mae'r busnes yn arbenigo yn y sectorau ailgylchu, warysau, dosbarthu a gweithgynhyrchu. Mae'n cyfuno gwasanaethau recriwtio â rheolaeth weithredol ar y safle, goruchwyliaeth y gadwyn gyflenwi a llywodraethu cydymffurfiaeth, gan helpu cwsmeriaid i reoli gweithluoedd dros dro cyfaint uchel ar draws nifer o leoliadau.
Dan arweiniad y Prif Weithredwr Phil Tromans, mae ALS wedi tyfu'n sylweddol ers ei bryniant blaenorol gan y rheolwyr yn 2018. Mae trosiant wedi cynyddu o £13.3 miliwn i fwy na £60 miliwn, tra bod nifer y gweithwyr wedi dyblu.
Mae'r pryniant diweddaraf gan y rheolwyr yn nodi'r cam nesaf yn natblygiad y cwmni, gan ddarparu parhad i'r busnes wrth iddo ehangu ei wasanaethau gweithlu a reolir a datblygu perthnasoedd gyda chwsmeriaid newydd a phresennol.
Gweithio gyda ni
Dyddiad y rownd ariannu ddiweddaraf: 2026
Maint: £3.75 miliwn
Cronfeydd: Cronfa Olyniaeth Rheolaeth Cymru a Chronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru
Gwnaethom ddarparu pecyn ecwiti a dyled gwerth £3.75 miliwn i gyd-ariannu ail bryniant ALS Managed Services gan y rheolwyr. Mae'r buddsoddiad wedi galluogi'r tîm rheoli, dan arweiniad Phil Tromans, i fynd â'r busnes ymlaen i'w gyfnod nesaf o dwf.
Mae'r cyllid yn rhoi llwyfan i ALS ehangu ei weithrediadau ledled y DU a chynnig ei atebion gweithlu a reolir i ragor o gwsmeriaid mewn sectorau sydd â gofynion llafur cymhleth a chyfaint uchel. Bydd hefyd yn helpu'r cwmni i gryfhau perthnasoedd gyda chleientiaid presennol wrth gynnal ei ffocws ar gydymffurfiaeth, sefydlogrwydd y gweithlu a darparu gwasanaeth dibynadwy.
Mae ein perthynas ag ALS yn dyddio'n ôl i 2018, pan wnaethom gyfrannu at becyn cyllid gwerth £1 miliwn a gefnogodd bryniant blaenorol y cwmni gan y rheolwyr. Prynwyd ein cyfran ecwiti yn ôl gan y cwmni yn 2021.
Mae'r buddsoddiad diweddaraf yn dangos sut y gall cyllid olyniaeth a thwf gefnogi busnes drwy wahanol gyfnodau o berchnogaeth. Drwy weithio gydag ALS dros y tymor hir, rydym wedi helpu i ddarparu sefydlogrwydd a pharhad wrth gefnogi tîm rheoli profiadol i wireddu ei gynlluniau ar gyfer twf pellach.
Beth mae pobl yn ei ddweud
Dywedodd Phil Tromans, Prif Weithredwr ALS Managed Services:
"Rydym wedi adeiladu hanes cryf ers y pryniant blaenorol yn 2018, ac mae'r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i ddyfnhau ein partneriaethau â chleientiaid presennol wrth ehangu ein gwasanaeth a reolir i gwsmeriaid newydd sy'n chwilio am ddull mwy strwythuredig ac atebol o ddarparu llafur.
"Mae Banc Datblygu Cymru wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r busnes drwy bob cam o'i ddatblygiad. Mae'r pryniant gan y rheolwyr yn rhoi sefydlogrwydd, parhad a llwyfan cryf i ni fynd ag ALS ymlaen."
Dywedodd Jo Thomas, Dirprwy Reolwr y Gronfa ym Manc Datblygu Cymru:
"Mae ALS Managed Services yn enghraifft gref o sut y gall timau rheoli profiadol ysgogi twf hirdymor. Ar ôl cefnogi'r busnes yn llwyddiannus drwy'r pryniant blaenorol, rydym yn falch o gefnogi Phil a'r tîm wrth iddynt gymryd perchnogaeth ac arwain y cam nesaf.
"Mae hwn yn enghraifft wych o sut rydym yn cefnogi busnesau Cymru drwy'r cylch perchnogaeth llawn, o olyniaeth a phryniannau gan y rheolwyr i dwf hirdymor ac ailfuddsoddi."