Anglesey Sea Food Limited

Andrea-Richardson
Swyddog Portffolio

Mae gweithio ar y môr, pysgota, ac yn fy nghymuned leol wedi bod yn freuddwyd i mi erioed. Ni fyddai unrhyw beth, dim hyd yn oed pandemig yn fy rhwystro i. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Banc Datblygu am eu cefnogaeth yn ystod y cam cychwynnol hwn o fy musnes.

Sion Riley, perchennog Anglesey Sea Food Limited

Mae galw mawr am bysgod feteran y Llynges Frenhinol, Sion Riley ers iddo lansio Anglesey Sea Food Limited ym mis Gorffennaf 2020.

Cymerodd awenau cwch bysgota’r Pan Arctig wedi iddo gael micro fenthyciad cychwynnol gan Fanc Datblygu Cymru.

Sylweddolodd Sion bod cwch, gyda hawliau pysgota llawn, ar fin mynd ar werth. Cysylltodd â pherchennog y cwch ynglŷn â’i gymryd drosodd ac yna ymchwilio i ba gefnogaeth oedd ar gael i fusnesau newydd yn Ynys Môn.

Siaradodd â'r elusen leol Môn CF a'i rhoddodd mewn cysylltiad â Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru. Derbyniodd gefnogaeth gan Busnes Cymru i greu cynllun busnes ac yna gwnaeth gais am fenthyciad cychwynnol i helpu i brynu'r cwch pysgota.