Aspire to Inspire Fitness

Mal-Green
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)

Trosolwg o'r busnes 

Mae Aspire to Inspire Fitness Ltd yn fusnes ffitrwydd i fenywod yn unig a sefydlwyd ym mis Mawrth 2020 gan Kathryn Jones. Wedi'i sefydlu'n wreiddiol yn ystod cyfnod clo cyntaf Covid, dechreuodd y busnes drwy gynnig hyfforddiant personol symudol cyn agor ei leoliad campfa cyntaf ym Mwcle. 

Gyda mwy na 15 mlynedd o brofiad yn y sector ffitrwydd a hamdden, mae Kathryn Jones wedi datblygu Aspire to Inspire Fitness Ltd ar sail yr egwyddor o ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol lle gall menywod wella eu ffitrwydd a magu hyder. 

Wrth i nifer yr aelodau gynyddu, cyrhaeddodd y busnes derfynau ei leoliad presennol. Mae symud i safle mwy yn yr Wyddgrug wedi cynyddu capasiti'n sylweddol, gan alluogi Aspire to Inspire Fitness Ltd i dyfu o tua 170 o aelodau i gymaint â 300. Mae'r safle newydd ar y llawr gwaelod hefyd wedi gwella hygyrchedd, gan alluogi'r gampfa i gefnogi mwy o fenywod ag anghenion ychwanegol ac anableddau. Mae'r ehangu wedi rhoi cyfle i dyfu'r tîm hyfforddi a chyflwyno ffynonellau incwm newydd, gan gynnwys bar smwddis. 

Gweithio gyda ni 

Gwnaethom ddarparu benthyciad micro o £50,000 i Aspire to Inspire Fitness Ltd o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru i gefnogi'r gwaith o adleoli o Fwcle i safle mwy yn yr Wyddgrug. 

Drwy symud i leoliad mwy a mwy hygyrch, mae'r busnes wedi gallu goresgyn y cyfyngiadau capasiti yn ei safle blaenorol, gan greu lle i gynyddu ei aelodaeth, ehangu ei dîm hyfforddi a datblygu ffrydiau refeniw ychwanegol. 

Beth mae pobl yn ei ddweud Dywedodd 

Kathryn Jones, sylfaenydd Aspire to Inspire Fitness Ltd:

“Roedd dechrau Aspire to Inspire Fitness yn ystod y cyfnod clo yn gam dewr, ond deilliodd o awydd gwirioneddol i greu lle diogel a chefnogol lle gallai menywod feithrin hyder yn ogystal â chryfder. Ers hynny, mae'r busnes wedi tyfu'n organig, ond roeddem wedi cyrraedd y pwynt lle'r oedd ein huchelgais a'n cymuned wedi tyfu'n rhy fawr i'r lleoliad roeddem ynddo. 

“Mae'r symudiad hwn i'r Wyddgrug wedi rhoi'r cyfle i ni wneud pethau'n iawn. Mae cefnogaeth Banc Datblygu Cymru wedi bod yn allweddol wrth helpu i droi ein cynlluniau'n realiti, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae Aspire to Inspire yn parhau i dyfu.” 

Dywedodd Malcolm Green, Gweithredwr Portffolio ym Manc Datblygu Cymru: 

“Mae Aspire to Inspire Fitness yn enghraifft gref o fusnes Cymreig sydd wedi cyfuno diben clir ag uchelgeisiau twf cynaliadwy. Mae Kathryn wedi adeiladu cymuned ffyddlon o amgylch arlwy cynhwysol i fenywod yn unig, ac mae'r buddsoddiad hwn wedi galluogi'r busnes i dyfu mewn ffordd sy'n cefnogi gwytnwch masnachol ac effaith gymdeithasol gadarnhaol. 

“Drwy gefnogi'r adleoli a'r gwaith o osod a pharatoi'r safle newydd, rydym wedi helpu Aspire to Inspire i gael gwared ar gyfyngiadau presennol, gwella hygyrchedd a chreu'r amodau ar gyfer twf hirdymor, swyddi newydd a ffrydiau incwm amrywiol. Rydym yn falch o gefnogi'r busnes wrth iddo ddechrau ar y cam nesaf hwn.”