- Rhanbarth
-
Gogledd Cymru
- Math o gyllid
-
Benthyciad
- Angen y busnes
-
Prynu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £100,000
"Dros y 32 mlynedd ddiwethaf, mae Dad a Dewi wedi datblygu busnes ffyniannus sy'n darparu cyflogaeth i bobl leol ac mae ein cwsmeriaid yn ffyddlon iawn. Mae'r cymorth a'r gefnogaeth gan Rhodri Evans a'r tîm yn y banc datblygu wedi bod yn wych ac ni allaf ddiolch digon iddynt. Rwy'n falch iawn o fod yn cymryd drosodd gan fy Nhad a Dewi."
Mae Bangor Tyre Services wedi bod yn cynnig gwasanaethau mecanig a gosod teiars i gwsmeriaid ym Mangor ers dros 30 mlynedd. Cafodd y busnes ei sefydlu gan y ffrindiau Gwyn Thomas a Dewi Roberts, a gwerthwyd y cwmni i fab 32 oed Gwyn, Stuart.
Defnyddiodd Stuart, a ddechreuodd weithio i'r busnes pan oedd yn 17 oed, fenthyciad Banc Datblygu Cymru o £350,000 ochr yn ochr â'i gronfeydd ei hun i ganiatáu iddo brynu'r bartneriaeth bresennol a pharhau â'r busnes. Mae ganddo bellach gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y cwmni.
Gwybodaeth am y cwmni
- Lleoliad
-
Bangor