Rydym ni’n falch o’n Cymreictod ac yn caru Sir Benfro ac felly cam naturiol oedd cydweithio â chyllidwyr o Gymru, sy’n rhannu ein gweledigaeth ac yn credu bod gan Barti'r potensial i fod y rỳm sy’n gwerthu orau yn y byd.
Jonathan Williams, Cyfarwyddwr, Barti Rum
Trosolwg o’r busnes
Mae Barti Rum yn arbenigo mewn creu rỳm sbeislyd premiwm sy’n llawn cynhwysion unigryw o arfordir Penfro.
Mae’r cwmni’n cymysgu rỳm o’r ansawdd uchaf o’r Caribî gyda nodau o fanila a gwymon sydd wedi ei gasglu â llaw er mwyn creu gwirodlyn melfedaidd sy’n llawn blas.
Sylfaenydd

Jonathan Williams - Cafodd Jonathan ei ddisgrifio gan James Martin, y cogydd teledu fel ‘dyn gwallgof y gwymon’. Fe sefydlodd Jonathan Barti Rum yn haf 2017.
Mae Jonathan hefyd yn rhedeg The Old Point House, ym Mae Dwyrain Angle, Sir Benfro, ac mae’r fwydlen yno yn enwog am ei rholiau corgimwch a gwymon, salad planhigion y môr a’r byrgers y gallwch chi eu mwynhau ger y môr yn ‘Café Môr’ yn Angle ger Penfro.
Pwrpas y busnes

Roedd Jonathan yn awyddus i gyfuno ei hoff bethau, sef gwymon a rỳm. Fe aeth ati i ddatblygu’r blasau a chael gafael ar rỳm a oedd wedi ei ddistyllu gan arbenigwyr yn y Caribî.
Er gwaethaf heriau'r pandemig, fe gafodd Barti gydnabyddiaeth fel y trydydd cwmni gwirodydd sy’n gwerthu orau mewn canolfannau cyfanwerthu rhanbarthol yng Nghymru; y ddau gwmni ar y blaen i barti oedd Gordon’s Gin a Smirnoff Vodka.
Mae'r cwmni o Sir Benfro’n defnyddio fanila, sinamon, clofau, a sitrws melys i greu eu prif ddiodydd sef Rỳm Sbeislyd Barti a Gwirodlyn Hufen Barti. Mae’r rỳm yn cael ei drwytho â bara lawr gwyllt cyn cael ei roi mewn poteli gwydr sydd wedi eu hailgylchu a’u labelu gyda sgil-gynnyrch cansen siwgr o ganolfannau potelu a dosbarthu yn Neyland a Hensol ym Mro Morgannwg.
Erbyn hyn, mae Rỳm Sbeislyd Barti a Gwirodlyn Hufen Barti wedi ennill gwobrau ac yn cael eu gwerthu yn Tesco a Co-op yn ogystal â siopau manwerthu a siopau annibynnol ym mhob rhan o Gymru. Gallwch chi hefyd archebu ar-lein.
Mae Barti Rum wedi cael ardystiad B Corp, ac wedi ymuno â grŵp mawr o gwmnïau sydd yn ailwampio byd busnes er lles y cyhoedd a’r blaned. Mae cael ardystiad gan B Lab, y mudiad nid-er-elw y tu ôl i B Corp yn gamp aruthrol ac yn dangos bod Barti Rỳm yn bodloni safonau uchel o ran perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol, tryloywder, ac atebolrwydd.
Gweithio gyda ni

Er mwyn cynyddu cynhyrchiant, cafodd Barti fuddsoddiad o £200,000 gan Fanc Datblygu Cymru, a benthyciad o £27,000 gan Loteri Sir Benfro. Defnyddiwyd y benthyciadau i ddatblygu cynnyrch a mynd ar drywydd cyfleoedd allforio yng Nghanada a Japan, ac i adeiladu bar symudol i’w ddefnyddio mewn digwyddiadau awyr agored.
Beth mae pobl yn ei ddweud
Roedd hi’n bwysig bod gennym ni’r cyfalaf gweithio a oedd ei angen i brynu’r stoc er mwyn ymateb i’r galw cynyddol gan gwsmeriaid Tesco a Co-op. Rydym ni’n edrych ymlaen at ddatblygu cynnyrch newydd a mynd ar drywydd rhagor o gyfleoedd allforio.
Mae Barti yn gynnyrch ecogyfeillgar blasus a ffasiynol sy’n dathlu Sir Benfro. Rydym ni’n falch o’n Cymreictod ac yn caru Sir Benfro ac felly cam naturiol oedd cydweithio â chyllidwyr o Gymru, sy’n rhannu ein gweledigaeth ac yn credu bod gan Barti'r potensial i fod y rỳm sy’n gwerthu orau yn y byd.
Jonathan Williams, Cyfarwyddwr, Barti Rum
Mae Jonathan wedi defnyddio ei ddiddordeb mewn coginio, chwedlau lleol, cynaliadwyedd a’r môr i greu busnes llewyrchus, ac mae’r cynnydd yng ngalw’r farchnad am ddiodydd artisan premiwm yn golygu bod gan Barti botensial gwirioneddol i fod yn stori allforio lwyddiannus arall o Gymru. Mae Barti yn gwmni gwych sy’n ennyn momentwm gyda chwsmeriaid sydd eisiau mwynhau cymysgedd o flasau unigryw.
Kelly Jones, Swyddog Gweithredol Portffolio, Banc Datblygu Cymru