- Rhanbarth
-
Gogledd Cymru
- Math o gyllid
-
Benthyciad
- Angen y busnes
-
Eiddo datblygu
- Maint
-
BBaCh
“Mae angen lleol amlwg am gartrefi newydd o safon yng Nghaernarfon ac rydym yn falch o allu helpu i ateb y galw hwnnw gyda'n datblygiad.”
Mae Beech Developments yn gwmni datblygu eiddo yng Ngogledd Cymru.
Mae ei gynllun preswyl newydd yng Nghaernarfon yn darparu 23 o dai fforddiadwy newydd i'r gymdeithas dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd fel rhan o ddatblygiad eiddo o 45 o dai yn y dref. Mae hyn yn helpu i ddiwallu'r angen lleol am gartrefi newydd o ansawdd uchel.
Cefnogwyd y datblygiad gyda benthyciad tymor byr gan Fanc Datblygu Cymru.