Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Bishop Bayliss Developments

James-Brennan
Swyddog Datblygu Eiddo

Fe wnaeth Banc Datblygu Cymru ein cefnogi ni ac roedden nhw'n gallu gweld ein gweledigaeth ar gyfer y safle, ac fe wnaethon nhw ein rhoi ni ar ben ffordd; dydyn ni ddim yn gwybod ble bydden ni hebddyn nhw.

Adam Meah, Cyfarwyddwr Masnachol, Bishop Bayliss Developments

Trosolwg busnes

Cwmni datblygu eiddo yn Ne Cymru yw Bishop Bayliss Developments sy’n arbenigo mewn datblygiadau masnachol i ddatblygiadau preswyl, gan ddod â chartrefi sy'n effeithlon o ran ynni ac sy'n addas ar gyfer y dyfodol i ardaloedd lle mae eu hangen fwyaf.

Tîm rheoli

Bishop Bayliss

 

Adam Meah - Ymunodd Adam ym mis Medi 2022 ac mae’n cael ei gyflogi fel Rheolwr Masnachol. Mae'n rheoli'r prosiectau o ddydd i ddydd, gan oruchwylio cynnydd a rheoli 
is-gontractwyr i sicrhau bod prosiectau'n aros o fewn y gyllideb a'r rhaglen.

Ashley Bishop – Mae gan Ashley MSc mewn Rheoli Arloesedd, BEng mewn Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu ac ardystiad Sefydliad PRINCE2 mewn Rheoli Prosiectau.

Lloyd Bayliss – Mae gan Lloyd dros 12 mlynedd o brofiad ym maes trydan gan ganolbwyntio ar osod, profi a chanfod namau domestig a diwydiannol. Mae ganddo hefyd brofiad perthnasol o weithio gyda busnesau a chontractwyr i ehangu ac ymestyn cyrhaeddiad craidd y busnes i gontractau cynnal a chadw. 

Pwrpas y busnes

Bishop Bayliss

 

Nod Bishop Bayliss Developments yw cynhyrchu tai newydd o ansawdd uchel sy’n effeithlon o ran ynni ar draws De Cymru. Gyda phob safle newydd, mae’r tîm yn ceisio rhoi eu cwsmeriaid yn y rheng flaen, gan ymdrechu bob amser am wasanaeth eithriadol gyda meddylfryd o welliant parhaus ym mhob agwedd ar y datblygiad.

Gwelodd Bishop Bayliss Developments gyfle i adeiladu pedwar cartref newydd yn Grove Park, Maesynant yn 2023. Mae'r eiddo wedi'u lleoli ar gyrion canol tref Merthyr Tudful; llai na hanner milltir o ysgolion lleol a Pharc Cyfarthfa, a llai na milltir o'r orsaf drenau, siopau'r stryd fawr a Tesco Extra mawr. Mae hefyd mewn lleoliad da o ran y rhwydwaith ffyrdd ehangach.

Ariannu

Bishop Bayliss

 

Cwblhaodd y datblygwr eiddo ei ddatblygiad preswyl newydd cyntaf yn llwyddiannus yng nghanol Merthyr Tudful yn dilyn benthyciad £1.2 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Roedd y gwaith seilwaith eisoes wedi'i wneud ar y safle gan berchennog cynharach, gyda Bishop Bayliss yn awyddus i ddefnyddio’r prosiect i gwblhau’r set gyntaf o gartrefi newydd, ar ôl canolbwyntio yn y gorffennol ar adnewyddu neu atgyweirio adeiladau a oedd yn bodoli’n barod. Mae'r pedwar eiddo newydd eisoes wedi'u gwerthu oddi ar y cynllun, gyda'r benthyciad wedi'i ad-dalu'n llawn.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Roedden ni’n awyddus i weithio ar adeilad newydd, ond roedd hi’n anodd i ni ddod o hyd i fenthyciwr a fyddai’n ein cefnogi. 

Fe wnaeth Banc Datblygu Cymru ein cefnogi ni ac roedden nhw'n gallu gweld ein gweledigaeth ar gyfer y safle, ac fe wnaethon nhw ein rhoi ni ar ben ffordd; dydyn ni ddim yn gwybod ble bydden ni hebddyn nhw. 

Adam Meah, Cyfarwyddwr Masnachol, Bishop Bayliss Developments

Mae'r datblygwyr wedi gosod tai newydd o ansawdd uchel ar safle sydd angen ei ddatblygu mewn ardal breswyl boblogaidd, a dangoswyd hynny gan y galw cryf am yr eiddo.

Rydyn ni’n falch bod ein cefnogaeth yn golygu bod Bishop Bayliss Developments wedi gallu prynu a dechrau gweithio’n gyflym ar y safle, gyda chefnogaeth ein buddsoddiad drwy Gronfa Eiddo Cymru, sy’n bodoli er mwyn rhoi hwb i ddatblygiadau fel y rhai ym Maesynant.

James Brennan, Swyddog Datblygu Eiddo, Banc Datblygu Cymru

Er mai dyma oedd datblygiad cyntaf Bishop Bayliss i adeiladu cartrefi newydd, fe wnaethon nhw ymdrin â’r cynllun gyda lefel uchel o aeddfedrwydd. Roedden nhw’n barod i wrando ar gyngor a herio yn yr un modd.

Fe wnaeth y dull hwn, ynghyd â pharodrwydd y Banc Datblygu i ddod o hyd i atebion yn hytrach na chreu rhwystrau pellach i’r Benthyciwr, greu perthynas glòs rhwng bob parti. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Banc Datblygu a Bishop Bayliss ar brosiectau yn y dyfodol.

Paul Griffiths, Syrfewyr Meintiau RPA