Brighter Minds Childcare

Kelly-Jones
Swyddog Portffolio

Rydym yn credu mewn darparu amgylchedd meithrin cartrefol lle gall y plant ffynnu a lle mae chwilfrydedd, antur a hwyl wrth galon y dysgu. Diolch i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru, gallwn gynnig ein gwasanaethau a'n hethos dysgu trwy chwarae i deuluoedd lleol.

Helen Morris, sylfaenydd

Trosodd Brighter Minds Childcare Ltd, sy'n annog dysgu trwy chwarae, garej fawr yn eu canolfan ar Ffordd Gwendoline, Risca yn ystafell ychwanegol ar gyfer eu cyfleuster gofal plant disglair a chyfeillgar.

Mae'r benthyciad wedi galluogi iddynt gynnig mwy o wasanaethau gofal plant i rieni yn yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth 'Wraparound,' brecwast, clwb ar ôl ysgol ac mae cefnogaeth clwb gwyliau ar gael i rieni plant sy'n mynychu ysgolion cynradd lleol.

Gyda'r adeilad ychwanegol, gall Brighter Minds Childcare Ltd nawr gynnig hyd at 46 o leoedd bob dydd.