Cariad Glass

Alun-Lister
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)

Mae ein gwerthiannau fel arfer yn dod trwy orielau ac arddangosfeydd a oedd i gyd yn cael eu hatal. Mae ein siop wefan, yr Emporium Stained Glass wedi bod yn amhrisiadwy i ni, ynghyd â'r gefnogaeth a gawsom gan y Banc Datblygu.

Justine Dodd, Cyd-berchennog, Cariad Glass

Gwelodd yr artistiaid Gwydr Lliw, Cariad Glass, hwb mewn gwerthiannau ar-lein yn ystod y broses gloi ar ôl datblygu cit mosaig gwydr cartref er mwyn rhoi ateb creadigol i gwsmeriaid crefftus. Cawsant micro fenthyciad i gefnogi cyfalaf gweithio a thwf ym mis Ebrill 2020.

Mae'r tîm gŵr a gwraig Justine a Chris Dodd yn defnyddio dulliau a thechnegau traddodiadol i greu darnau celf a gwydr pwrpasol, gan arbenigo mewn gwaith comisiwn ac adfer. Maent hefyd yn cynnig cyrsiau wyneb yn wyneb yn eu stiwdio i'r rheini sy'n dymuno dysgu mwy am grefftau gwydr.

Yn awyddus i arallgyfeirio a chynnig rhywbeth i'w wneud gartref i gwsmeriaid sy'n colli allan ar gyrsiau wyneb yn wyneb, lluniodd y pâr y syniad o greu panel mosaig gwydr crog bach y gallwch ei wneud gartref. Fe wnaethant ffilmio'r broses o lunio brithwaith gwydr gan ddefnyddio offer domestig a rhoi'r fideo ar eu tudalen Facebook. Buan y cawsant eu boddi gan geisiadau i brynu'r citiau £25.

Ers hynny maent wedi symud i adeilad newydd ar y stryd fawr yn Llandysul ac wedi agor oriel o'r enw Cariad Creative Emporium.