Cleany Queeny

Nakeja Howell
Cynorthwyydd Portffolio

Mae’r benthyciad a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru wedi ein helpu i arallgyfeirio er mwyn cynnig ystod ehangach o wasanaethau y mae galw mawr amdanynt a’n galluogi i brynu cyfarpar newydd a thalu am hyfforddiant i’r staff.

Charmain Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Cleany Queeny

Mae dyfodol y busnes glanhau Cleany Queeny o Gasnewydd yn edrych yn ddisglair a llewyrchus ar ôl i’r cwmni sicrhau microfenthyciad gwerth £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Defnyddiwyd y microfenthyciad i dalu am gostau hyfforddi staff a phrynu cyfarpar newydd er mwyn helpu gyda’r broses glanhau dwys yn ystod Covid 19. Mae dihalogi a glanhau dwys yn rhan o’r ystod newydd ac ehangach o wasanaethau masnachol a phreswyl y mae’r busnes yn eu cynnig.

Ar ôl cael y benthyciad o £10,000 aeth Rheolwr Gyfarwyddwr Cleany Queeny Charmain Edwards ati i gyflogi rheolwr cyllid, ail gynorthwyydd swyddfa ychwanegol ac wyth o lanhawyr ychwanegol.

Mae Charmain a’i thîm yn gweithio yn ardal Casnewydd, Caerdydd, Brynbuga, Pont-y-pŵl, Abercarn a Chwmbrân – ac mae’n awyddus i ehangu ledled de Cymru.