- Rhanbarth
-
Gorllewin Cymru
- Math o gyllid
-
Benthyciad
- Angen y busnes
-
Tyfu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £100,000
“Mi fuaswn i'n argymell unrhyw fentergarwr lleol sydd eisiau dechrau neu dyfu eu busnes i gael sgwrs gyda thîm y Banc Datblygu. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn wych ac mae'n bleser gweithio gyda'r tîm.”
Bwyty sy'n seiliedig yn Aberteifi yw Crwst, dan ofal y cwpl lleol Catrin ac Osian Jones. Maent yn arbenigo mewn gwneud bwyd o ansawdd gan ddefnyddio cynnyrch o ffynonellau lleol.
Fe wnaethon nhw sefydlu eu micro-becws a gwneud bara ffres, toesenni, cacennau a theisennau yn 2017. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe wnaethant sicrhau benthyciad chwe ffigur gennym i ehangu'r busnes ac agor caffi, deli a bwyty yng nghanol Aberteifi.
Maen nhw'n cyflogi 30 o bobl leol, mae'r bwyty ar agor chwe diwrnod yr wythnos, ac fe gynigir bwydlen brecwast a bwydlen gyda'r nos, ac erbyn hyn mae yno far trwyddedig.