Drone Evolution

Andy-Morris
Uwch Swyddog Buddsoddi

Mae hon yn sioe ffydd gan syndicet buddsoddwyr angel, Angylion Buddsoddi Cymru a Banc Datblygu Cymru mai busnes yw hwn sy'n mynd I leoedd yn y DU a marchnad fyd-eang sy'n tyfu.

Andrew Diplock, prif fuddsoddwr a chadeirydd Drone

Mae Drone Evolution a ddaeth yn weithredol ym mis Tachwedd 2018 yn gobeithio newid y ffordd y mae sefydliadau'n defnyddio technoleg dron ac yn cyfrannu at eu defnyddio ar gyfer diogelwch y cyhoedd.

Elwodd ei sylfaenwyr o'r buddsoddiad cyntaf o Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru, fel rhan o becyn ecwiti ynghyd a syndicet buddsoddwr angel busnes o Dde Cymru.

Darparodd Cronfa Cyd-fuddsoddi Cymru Banc Datblygu Cymru, a lansiwyd ym mis Mai 2018, gyfanswm o £90,000 o arian cyfatebol i syndicet o bum angylion busnes, dan arweiniad Andrew Diplock yn y cwmni gwasanaethau dron masnachol yng Nghaerffili, De Cymru.

Mae'r buddsoddiad wedi galluogi'r cwmni i brynu offer a thechnoleg o'r radd flaenaf a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu cymwysiadau newydd ar gyfer dronau. Mae'r cwmni'n disgwyl adeiladu tim o hyd at 12-15 o staff dros y tair blynedd nesaf ac mae ganddo olwg ar ehangu rhyngwladol.