The Dropbar Workshop

Janet-Speck
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)

Am flynyddoedd rydw i wedi breuddwydio am agor siop feiciau. Pan gynyddodd y galw am feiciau yn ystod y cyfnod clo, penderfynodd fy mhartner busnes Ben a minnau achub ar y cyfle a mynd at y Banc Datblygu i gael cyllid cychwynnol. Roeddent yn credu ynom ni a'n syniad, ac fe wnaethant roi'r gefnogaeth i ni wneud i hyn ddigwydd.

Neil Cowhey, Perchennog

Siop atgyweirio beiciau ac alcohol yw The Dropbar Workshop. Fe agorodd yn Clear Water Way, Caerdydd, ym mis Tachwedd 2020, gyda chymorth micro fenthyciad o £25,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Roedd y perchennog Neil Cowhey yn gogydd yn broffesiynol, ond gyda'i sgiliau gwasanaethu ac uwchraddio beiciau, roedd wastad wedi bod eisiau agor ei siop feiciau ei hun. Pan arweiniodd y cyfnod clo at y ffyniant mewn beicio, penderfynodd Neil a'i bartner busnes Ben Kingman fanteisio ar y cyfle a sefydlu siop.

Yn ychwanegol at ei ystod o wasanaethau beic, ategolion a hanfodion, mae The Dropbar Workshop hefyd yn cynnig dewis o gwrw crefft a gwinoedd sy'n cylchdroi'n gyson. Bydd hefyd yn gweini bwyd unwaith y bydd cyfyngiadau'r cyfnod clo yn cael eu codi.

Gallwch ddarganfod mwy ar eu gwefan.