Ellis Development

Alwyn-Thomas
Swyddog Datblygu Eiddo

Mae'r cyllid hyblyg wedi'i deilwra gan Fanc Datblygu Cymru wedi ein galluogi i ddatblygu'r safle hwn yn gyfan gwbl ar ôl llenwi'r ddau gam cyntaf yn llwyddiannus. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd da ar y datblygiad hapfasnachol hwn a bydd 12 uned ychwanegol ar gael i'w prynu neu eu rhentu yn ddiweddarach yn 2020.

Meirion Ellis-Jones, Cyfarwyddwr

Dechreuodd y gwaith ar drydydd cam Ystâd Ddiwydiannol Glan yr Afon yn Aberystwyth ym mis Ionawr 2020 ar ôl i'r datblygwr Ellis Development sicrhau'r buddsoddiad cyntaf o Gronfa Eiddo Masnachol Cymru.

Sicrhaodd Ellis Development o Aberystwyth y benthyciad i gefnogi datblygiad blociau pump a chwech ym Mharc Melin, trydydd cam Ystâd Ddiwydiannol Glan yr Afon yn Aberystwyth. Bydd 12 uned sy'n gyfanswm o 16,910 troedfedd sgwâr o ofod diwydiannol a masnachol ysgafn hapfasnachol yn ychwanegu at yr 17 uned bresennol; mae pob un ohonynt wedi'u gwerthu neu wedi'u gosod i denantiaid gan gynnwys Greggs a Tool Station.

Datblygiad Glan yr Afon yw'r brif ystâd fasnachu yn yr ardal gyda chymysgedd o ddeiliaid modern a diwydiannol ysgafn a warws a defnyddwyr swyddfa.