Explorage.com

Michael-Bakewall
Dirprwy Pennaeth Portffolio

Mae cefnogaeth y Banc Datblygu, Huw fel y prif fuddsoddwr a’r syndicet ehangach yn golygu ein bod bellach mewn sefyllfa dda i wireddu ein gweledigaeth ac mae gennym y cysur o wybod eu bod yn deall yr her o sefydlu a chynyddu graddfa busnes technoleg twf cyflym.

Anna Roberts, Sylfaenydd

Wedi’i leoli yn Ynys Môn, mae Explorage.com yn farchnad ar-lein sy’n caniatáu cyfleusterau hunan-storio i restru eu gofod a’u cwsmeriaid i ddod o hyd i, cymharu a chadw’r lle cywir ar unwaith ar gyfer eu hanghenion.

Mae tua 27,000 o archebion storio newydd bob mis yn y DU, ac amcangyfrifir bod y sector bellach yn werth tua £48 biliwn y flwyddyn. Eto i gyd, gall cymharu a chadw'r ateb cywir fod yn broses anghyson a hirwyntog.

Dyma sut mae ein cyllid ecwiti ac angel yn cefnogi Explorage.com i ddarparu marchnad ar-lein effeithiol ar gyfer gweithredwyr storio a'u cwsmeriaid.

Y meddwl chwim y tu ôl i Explorage.com

Anna-Roberts

Ac yntau yn ddim ond saith mlwydd oed, dangosodd Anna Roberts ei dawn mentergarol a’i hagwedd benderfynol wrth drefnu digwyddiad codi arian i berswadio Cyngor Sir y Fflint i fuddsoddi yn ei pharc pentref.

Cymhwysodd fel syrfëwr siartredig o'r brifysgol, ond eto roedd Anna yn cael ei hysgogi gan awydd i helpu pobl â phroblemau a ffocws ar wneud y peth iawn i gwsmeriaid. Gyda 60% o gwsmeriaid sy'n defnyddio hunan-storio yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn profi digwyddiad bywyd llawn straen, penderfynodd Anna ffurfio Explorage.com.

Ers ffurfio’r cwmni, mae’r tîm wedi tyfu i bum aelod o staff llawn amser, ochr yn ochr ag interniaid ac ymgynghorwyr sydd wedi helpu Explorage.com i dyfu’n sylweddol.

Gweithio gyda ni i dyfu Explorage

Explorage.com

Ym mis Tachwedd 2022, ymunodd syndicet o naw angel busnes â Banc Datblygu Cymru ac M-SParc i gefnogi Anna wrth iddi baratoi i lansio platfform ar-lein Exploage.com.

Huw Bishop o Camau Nesaf oedd prif fuddsoddwr y syndicet a fuddsoddodd swm chwe ffigur yn Explorage, gydag Angylion Buddsoddi Cymru yn darparu arian cyfatebol o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Gan gydnabod potensial y cwmni, ymrwymodd Rhaglen Cyflymydd M-Sparc arian i Explorage.com hefyd.

Defnyddiodd Anna’r arian i hurio staff allweddol a dechrau ar gyflwyniadau rhanbarthol ledled y DU, ac ers hynny mae Explorage wedi derbyn cyllid ecwiti ychwanegol gan ein Cronfa Sbarduno Technoleg i ddatblygu ymhellach y dechnoleg y tu ôl i Explorage.com.

Dywedodd Anna: “Mae cefnogaeth y Banc Datblygu, Huw fel y prif fuddsoddwr a’r syndicet ehangach yn golygu ein bod bellach mewn sefyllfa dda i wireddu ein gweledigaeth ac mae gennym y cysur o wybod eu bod yn deall yr her o sefydlu a chynyddu graddfa busnes technoleg twf cyflym. Mae’n gyfnod cyffrous iawn ac rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn.”

Dywedodd Tom Preene o Angylion Buddsoddi Cymru: “Yn aml, y syniadau syml sy'n datblygu i fod yn rai o’r busnesau gorau un. Mae agwedd benderfynol a meddylfryd mentergarol Anna yn golygu ei bod hi’n bendant yn un i’w gwylio felly rydym wrth ein bodd yn cefnogi Huw a’r syndicet o angylion busnes gyda’r buddsoddiad hwn.”

Angylion Buddsoddi Cymru

Mae rhwydwaith angylion mwyaf Cymru, Angylion Buddsoddi Cymru, yn cysylltu buddsoddwyr profiadol â busnesau Cymreig sy'n chwilio am fuddsoddiad preifat

Darganfod mwy