Banc Datblygu Cymru

Gallwn ddarparu ecwiti i ehangu gorwelion eich busnes p'un a ydych chi'n tyfu'ch busnes, yn prynu busnes neu'n datblygu menter dechnoleg.

horizons


Gall cyllid ecwiti helpu'ch busnes i ehangu yn 2021

 

  • Sicrhau chwistrelliad o arian parod heb faich yr ad-daliadau
  • Dod â gwybodaeth ac arbenigedd ychwanegol i'ch busnes
  • Codi symiau mwy na gan fenthyciadau traddodiadol

Gwybodaeth ecwiti

Mae cyllido trwy ecwiti yn golygu codi cyfalaf gyda buddsoddwyr yn cymryd rhan yn eich busnes am arian parod. Yn wahanol i gymryd benthyciad nid oes angen ad-daliadau misol.

Gellir defnyddio cyllid ecwiti ar draws cylch bywyd busnes. Gall ddarparu cyllid sbarduno i fusnesau technoleg newydd ddechrau, cyfalaf twf ar gyfer busnesau sefydledig, ac fe all gefnogi timau rheoli wrth brynu busnes. Mae'n gyllid amlbwrpas y gellir ei ddefnyddio ochr yn ochr â benthyciadau.

Canfyddwch fwy am ecwiti yn ein blogbost, Beth yw cyllid ecwiti a sut mae'n gweithio?

 

Mae cyllid dyled yn dod ar sawl ffurf, ond yn y bôn mae'n golygu benthyca cyfandaliad, y byddwch wedyn yn ei dalu'n ôl dros amser ynghyd â swm llog y cytunwyd arno. Mae yna nifer o wahaniaethau allweddol rhwng dyled a chyllid ecwiti, gan gynnwys ad-dalu, perchnogaeth, diogelwch, a'r broses codi arian. Canfyddwch fwy am sut mae'r mathau hyn o ariannu yn cymharu trwy ddarllen ein blogbost, Be ydi’r gwahaniaeth rhwng ecwiti a dyled?

Banc Datblygu Cymru yw un o'r buddsoddwyr ecwiti mwyaf gweithgar yn y DU. Oherwydd yr arian rydyn ni'n ei reoli, rydyn ni'n gallu darparu ecwiti ariannu o gyllid sbarduno yr holl ffordd i olyniaeth busnes. Mae gennym dimau ecwiti arbenigol sy'n arbenigwyr ym meysydd canfod a gweithio ochr yn ochr â chyd-fuddsoddwyr eraill. Rydym hefyd yn gallu darparu pecynnau ecwiti a benthyciadau pwrpasol i ddiwallu eich anghenion busnes.