Angylion Busnes Gogledd Cymru yn cefnogi darparwyr cyfleusterau storio glyfar

Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Explorage

Mae syndicet o naw angel busnes wedi ymuno â Banc Datblygu Cymru ac M-SParc i gefnogi’r entrepreneur lleol Anna Roberts wrth iddi baratoi i lansio Explorage, busnes sy’n cynnig ateb ar-lein i ddarparwyr a defnyddwyr cyfleusterau storio byd-eang.

Mae’r farchnad storio fyd-eang yn fusnes mawr, ac amcangyfrifir ei bod gwerth tua £ 48 biliwn. Mae oddeutu 27,000 o archebion storio newydd bob mis yn y DU, ond eto mae canfod, cymharu ac archebu cyfleuster hunanstorio cywir yn broses anghyson ac hirwyntog, a hynny am nad ydy llawer o gyfleusterau storio yn cynnig swyddogaeth archebu yn y fan a’r lle.

Bydd Explorage yn cynnig profiad defnyddiwr hawdd gyda chymorth ar gael i gwsmeriaid 24/7. Bydd cyfleuster e-fasnach hefyd er mwyn i gwsmeriaid allu prynu deunydd pacio, yn ogystal ag  adolygiadau o safleoedd storio gan gwsmeriaid.

A hithau’n Syrfëwr Siartredig Cymwysedig, dangosodd Anna Roberts ei dawn entrepreneuraidd a’i phenderfyniad wrth drefnu digwyddiad codi arian i berswadio Cyngor Sir y Fflint i fuddsoddi ym mharc ei phentref. Dim ond saith oed oedd hi ar y pryd.

Mae ysbrydoliaeth Anna ar gyfer Explorage yn cael ei sbarduno gan awydd i helpu pobl gyda phroblemau a chanolbwyntio ar wneud y peth iawn i gwsmeriaid. Gyda 60% o gwsmeriaid sy’n defnyddio cyfleusterau hunanstorio yn gwneud hynny am fod digwyddiad mewn bywyd yn achosi straen iddynt, meddyliodd Anna am y syniad o farchnad ar-lein ar gyfer hunanstorio a chyfleusterau, gan ddatblygu model meddalwedd sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr. Bydd y buddsoddiad yn awr yn cael ei ddefnyddio i wneud penodiadau allweddol a dechrau cyflwyno’n rhanbarthol ledled y DU cyn ehangu’n rhyngwladol i fanteisio ar gyfleoedd gyda phartneriaid tramor.

Mae’r buddsoddwr busnes Huw Bishop o Camau Nesaf yn arwain y syndicet sydd wedi buddsoddi swm chwe ffigwr yn Explorage, sydd ar Ynys Môn. Mae Angylion Buddsoddi Cymru wedi darparu arian cyfatebol o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Gan gydnabod potensial y cwmni mae Rhaglen Sbarduno M-SParc hefyd wedi ymrwymo i ariannu Explorage.

Esboniodd Anna Roberts: “Mae’n swnio’n syml, ac mae’n syml. Bydd Explorage yn cynnig cyfleuster didrafferth ar-lein lle bydd cwsmeriaid yn gallu adolygu, cymharu ac archebu cyfleusterau hunanstorio. Mae ein model refeniw yn golygu nad oes risg i weithredwyr cyfleusterau storio wrth ddefnyddio Explorage; gallant gyrraedd mwy o gwsmeriaid â demograffig ehangach, amrywio ffynhonnell eu harchebion, ehangu’n fwy hyderus a llenwi gofod newydd a gwag yn gynt.

“I mi, y cwsmer sydd pwysicaf ac rydw i wir yn mwynhau gwneud bywyd ychydig yn haws i bobl lle bynnag y gallaf. Nid hunanstorio yw’r dechrau busnes technoleg mwyaf amlwg, ond mae bwlch amlwg yn y farchnad ac rwy’n benderfynol mai Explorage fydd yr ateb y daw defnyddwyr a darparwyr i’w garu”.

“Mae cefnogaeth y Banc Datblygu, Huw fel y prif fuddsoddwr a’r syndicet ehangach, yn golygu ein bod bellach mewn sefyllfa dda i wireddu ein gweledigaeth gyda’r cysur o wybod eu bod yn deall yr her o gychwyn a thyfu busnes technoleg sy’n tyfu’n gyflym. Mae’n gyfnod cyffrous iawn ac rydw i’n falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma.”

Dywedodd Huw Bishop: “Mae bod mewn sefyllfa i gynnig cefnogaeth ariannol i entrepreneuriaid lleol a busnesau newydd yn rhoi llawer o foddhad a gall fod yn fath o fuddsoddiad sy’n dreth-effeithiol iawn. Yn sicr, mae rhwydwaith cynyddol o angylion buddsoddi yng Ngogledd Cymru sy’n awyddus i gymryd rhan mewn cyfleoedd buddsoddi cam cynnar.

“Ar ôl symud tŷ yn ddiweddar, cefais brofiad uniongyrchol o’r anawsterau sy’n gysylltiedig â dod o hyd i le i storio, felly pan gefais fy nghyflwyno i Anna am y tro cyntaf roedd yn ffres yn fy meddwl. Roedd ei brwdfrydedd, ei hangerdd a’i hegni ynghyd â’r cyfle yn y farchnad yn golygu ei bod yn hawdd iawn deffro diddordeb cyd-fuddsoddwyr eraill. Mae’r arian cyfatebol gan y Banc Datblygu yn golygu ein bod i bob pwrpas wedi dyblu ein heffaith felly byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wneud y gorau o’n pŵer ac i sbarduno twf Explorage.”

Ychwanegodd Tom Preene o Angylion Buddsoddi Cymru: “Yn aml iawn, y syniadau syml sy’n creu’r busnesau gorau. Mae penderfyniad a meddylfryd entrepreneuraidd Anna yn golygu ei bod hi’n sicr yn un i gadw llygaid arni, felly rydyn ni’n falch iawn o fod yn cefnogi Huw a’r syndicet o angylion busnes gyda’r buddsoddiad hwn.”

Mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, sy’n werth £8 miliwn, yn rhoi ffynhonnell allweddol o gyllid amgen i fusnesau Cymru drwy annog mwy o fuddsoddiad gweithredol gan angylion. Mae’r gronfa bum mlynedd yn rhoi cefnogaeth i greu syndicetiau a rhwydweithiau angylion ledled Cymru drwy ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyd at £250,000 i fuddsoddwyr sy’n chwilio am gyd-fuddsoddiad.