The Goods Shed

Nicola-Crocker
Rheolwr Cronfa

Rydyn ni'n dod ag adfywio cynaliadwy i gymunedau ledled Cymru. Nid yw ein datblygiadau yn brosiectau digymeriad y tu allan i'r dref. Nid ydym yn ddatblygwr lle mae bob dyluniad o'n tai yn adlewyrchiad diflas o bob un arall. Dyna'r peth gwych am weithio gyda'r tîm ym Manc Datblygu Cymru, maen nhw'n deall ein hanian ni ac yn barod i roi eu harian lle mae eu geiriau i sbarduno newid go iawn.

Simon Baston, Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae adeilad rheilffordd Fictoraidd adfeiliedig na ddefnyddir bellach wedi cael bywyd newydd fel canolfan adloniant a busnes yn Y Barri diolch i gyfanswm buddsoddiad o £2.9 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae'r sied nwyddau o'r 1880au ar Hood Road, Y Barri yn rhan o'r Chwarter Arloesi yng Nglannau'r Barri, menter adfywio ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun defnydd cymysg yn cynnwys pentref cynhwysyddion cludo a chyfadeiladau o fflatiau.

Syniad penigamp Simon Baston, Rheolwr Gyfarwyddwr DS Properties (Goods Shed) Limited yw'r prosiect, gan fasnachu fel Loft Co. Mae wedi gweithio o'r blaen gyda'r Banc Datblygu ar gynlluniau adnewyddu eraill gan gynnwys y Tŷ Pwmp (Pumphouse).