- Rhanbarth
-
Canolbarth Cymru
- Math o gyllid
-
Benthyciad
- Angen y busnes
-
Tyfu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £100,000
"Rydym wrth ein bodd bod ein contractau gyda'r prif archfarchnadoedd yn tyfu, ond roedd angen i ni ehangu er mwyn cyflenwi ein harchebion ac i gyd-fynd â'r galw am ein cynnyrch."
Symudodd Hilltop Honey i safle newydd, mwy o faint yn y Drenewydd ar ôl buddsoddiad dilynol gennym ni. Roedd y cwmni wedi derbyn micro fenthyciad yn flaenorol.
Maent yn cynhyrchu mêl, sy'n cael ei werthu mewn siopau ac archfarchnadoedd ledled y DU - gan gynnwys Tesco's, Sainsbury's a Fortnum & Mason.
Mae eu sylfaen newydd yng Nghanolbarth Cymru yn 14,000 troedfedd sgwâr - yn sylweddol fwy na'u hen bencadlys 2,500 troedfedd sgwâr yng Nghaersws sydd gyfagos.
Gwybodaeth am y cwmni
- Lleoliad
-
Y Drenewydd