- Rhanbarth
-
De Cymru
- Math o gyllid
-
Ecwiti
- Angen y busnes
-
Datblygu menter technoleg
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £100,000
“Rydym bellach yn dechrau ar gyfnod twf sylweddol. Mae'r ffaith ein bod wedi denu buddsoddiad gan fuddsoddwyr presennol, sydd wedi dewis arfer eu hawliau, yn ogystal â buddsoddwyr newydd yn cadarnhau eu cefnogaeth i'r cynnydd a wnaed gennym.”
Mae Hut Six Security Ltd yn ddatblygwr cynhyrchion hyfforddi diogelwch gwybodaeth sy'n seiliedig ar feddalwedd.
Elwodd y cwmni o rownd cychwynnol cyllido sbarduno yng ngwanwyn 2017. Arweiniwyd hyn gan gerbyd buddsoddi Syr Terry Matthews, Wesley Clover. Ers hynny mae'r cwmni wedi symud ymlaen o fod yn fusnes yn dechrau o'r newydd ac erbyn hyn mae yn y broses o gynyddu maint ei raddfa.
Yn 2019 cododd £450,000 mewn ail rownd cyllido ecwiti. Cymerodd cyfranddalwyr presennol a newydd, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru a chyfres o fuddsoddwyr angel, ran yn y rownd hon.
Bydd yr arian a godir yn cefnogi ehangiad domestig a thramor y cwmni trwy gefnogaeth weithredol ychwanegol yn ogystal â chynyddu gweithgarwch gwerthu a marchnata.