Y busnes
Wedi'i sefydlu ym 1995 gan y cyfarwyddwr Chris Norman, mae ISTL Engineering wedi tyfu o fod yn ddarparwr llafur i fod yn gontractwr mecanyddol a thrydanol gwasanaeth llawn sy'n gwasanaethu cleientiaid ledled Cymru a De-orllewin Lloegr.
Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn y sector, mae'r cwmni wedi gweithio ar dros 7,000 o fflatiau ac wedi darparu 500 o unedau preswyl yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig. Wedi'i leoli yn Ne Cymru, mae ISTL Engineering wedi meithrin enw da am ddibynadwyedd, ansawdd a pherthnasoedd hirdymor o fewn y sector adeiladu.
Gan gyflogi 40 o staff yn uniongyrchol a chefnogi mwy na 100 o isgontractwyr, mae'r busnes yn cyfuno arbenigedd technegol â diwylliant sydd wedi'i adeiladu ar dwf cyson a chyfrifol.
Yr her
Yn 2025, sicrhaodd ISTL Engineering gontract mawr newydd yn Channel View ym Mae Caerdydd, a ddarparwyd gan Wates Construction o dan ei gytundeb fframwaith â Chyngor Caerdydd. Mae'r prosiect yn cynnwys adeiladu dau floc preswyl sy'n cynnwys 24 a 102 o fflatiau yn y drefn honno, gyda'r gwaith yn rhedeg tan ddiwedd 2027. Roedd sicrhau'r contract yn garreg filltir arwyddocaol i'r busnes - ond roedd hefyd angen seilwaith a chymorth ariannol ychwanegol i gynnal cyfalaf gweithio.
Yn hytrach na rhwymo ei gyfalaf ei hun, chwiliodd ISTL am gyllid allanol i sicrhau y gallai amddiffyn llif arian tra’n parhau i fuddsoddi mewn cyfleoedd twf yn y dyfodol.
Fel cwsmer hirdymor i Fanc Datblygu Cymru a'i ragflaenydd Cyllid Cymru, trodd ISTL Engineering unwaith eto at yr hyn sydd wedi dod yn bartner ariannu dibynadwy.
Yr ateb
Sicrhaodd ISTL Engineering fenthyciad chwe ffigur gan Gronfa Buddsoddi Cymru, a ddarparwyd gan FW Capital, rhan o Grŵp Banc Datblygu Cymru.
Cafwyd mynediad at y cyllid drwy borth ceisiadau digidol newydd y Banc Datblygu — sy’n rhan o'i raglen trawsnewid digidol ehangach a gynlluniwyd i'w gwneud hi'n gyflymach, yn haws ac yn fwy cost-effeithiol i fusnesau godi cyfalaf.
Gan ddefnyddio'r platfform ar-lein, cwblhaodd ISTL ei gais a'i dynnu i lawr mewn dim ond tair wythnos. Galluogodd y broses ddigidol y busnes i uwchlwytho dogfennau'n ddiogel, olrhain cynnydd mewn amser real a chyfathrebu'n effeithlon â'r tîm buddsoddi — gan leihau'r aflonyddwch a chaniatáu i'r rheolwyr ganolbwyntio ar gyflawni.
I gontractwr sy'n tyfu ac yn gweithredu o fewn amserlenni prosiect tynn, roedd cyflymder ac eglurder yn hanfodol. Roedd y daith ddigidol symlach yn darparu'r ddau.
Yr effaith
Mae'r buddsoddiad wedi galluogi ISTL Engineering i:
- Sicrhau contract strategol bwysig ym Mae Caerdydd
- Diogelu cyfalaf gweithio wrth gyflawni rhwymedigaethau cytundebol
- Creu 10 swydd newydd
- Cryfhau'r capasiti ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol a phrosiectau tebyg ar raddfa fawr
Y tu hwnt i'r prosiect uniongyrchol, mae'r cyllid yn atgyfnerthu partneriaeth hirdymor a adeiladwyd dros 15 mlynedd a phum rownd o gefnogaeth. Mae mynediad parhaus at gyllid, ynghyd â disgyblaeth a chraffu masnachol, wedi helpu ISTL i dyfu'n gynaliadwy yn hytrach na gor-ymestyn.
Mae dull gweithredu’r Banc Datblygu yn cyfuno cefnogaeth sy'n cael ei harwain gan berthnasoedd â thrylwyredd masnachol. Caiff pob rownd ariannu ei hasesu'n ofalus i sicrhau bod y cynllun busnes yn gadarn, bod risgiau'n cael eu deall a bod twf yn parhau i fod yn gyraeddadwy.
I ISTL Engineering, mae'r cydbwysedd hwn o ymddiriedaeth a her wedi cefnogi ehangu cyson heb beryglu sefydlogrwydd.
Dywed y sylfaenydd
Dywedodd Chris Norman, Cyfarwyddwr ISTL Engineering:
“Mae’r benthyciad hwn wedi ein helpu i sicrhau prosiect mawreddog a phwysig yn strategol yng Nghaerdydd tra’n amddiffyn ein cyfalaf gweithio a rhoi’r lle i ni ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer ein cleientiaid.
“Rydym yn gweld ein gweithlu fel un teulu mawr — dyna ethos ein busnes. Rydym yn cael ein gyrru gan dwf cyson a chyfrifol sy'n rhoi ein pobl a'n cleientiaid yn gyntaf ac sy'n cyflawni ein hymrwymiadau bob amser.
“Mae gweithio gyda Banc Datblygu Cymru wedi bod mor wych ag erioed. Roedd y broses ymgeisio ddigidol newydd yn syml ac yn effeithlon, gan ein helpu i gael y cyllid yr oedd ei angen arnom yn gyflym a chyda’r aflonyddwch lleiaf posibl fel y gallem ganolbwyntio ar ennill y contract hwn a chefnogi ein tîm.”
Edrych ymlaen
Gyda chyllid yn ei le, mae ISTL Engineering yn canolbwyntio ar gyflawni ei gynlluniau twf tra’n cynnal yr ansawdd a'r dibynadwyedd sy'n sail i'w enw da. Mae'r buddsoddiad yn darparu'r cyfalaf gweithio sydd ei angen ar y busnes i gefnogi contractau mwy a rheoli cyflawni prosiectau'n effeithiol.
Mae'r gefnogaeth barhaus yn darparu sefydlogrwydd wrth i'r cwmni ehangu, gan sicrhau bod ganddo'r strwythur ariannol yn ei le i ddiwallu galw cwsmeriaid wrth weithredu gyda disgyblaeth fasnachol. Drwy gyfuno mynediad at gyfalaf â chefnogaeth strategol barhaus, mae'r busnes mewn sefyllfa dda i adeiladu ar ei gryfderau presennol a mynd ar drywydd twf cynaliadwy, hirdymor.
Dywedodd Kelly Jones, Swyddog Portffolio ym Manc Datblygu Cymru: “Mae ISTL Engineering yn enghraifft gref o sut y gall cefnogaeth barhaus, ynghyd â disgyblaeth fasnachol, helpu busnes i ehangu’n gynaliadwy dros y tymor hir.
“Mae ein rhaglen trawsnewid digidol wedi’i chynllunio i wella mynediad at gyfalaf i fusnesau Cymru, gan wneud y broses yn fwy tryloyw, effeithlon sy’n canolbwyntio fwy ar y cwsmer. I gwsmeriaid sy’n dychwelyd atom fel ISTL, mae’n darparu taith fwy llyfn o adeg cyflwyno’r cais i’r adeg tynnu’r arian i lawr — gan sicrhau bod cyllid ar gael pan fo’i angen i sicrhau cyfleoedd newydd.”