Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Just Love Food Company

Tom-Rook
Uwch Swyddog Portffolio

Y pethau cadarnhaol o gael yr ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru ydi bod y bobl rydw i'n delio â nhw yn arbenigwyr yn yr hyn maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n bobl sydd ar eich ochr chi, maen nhw'n gallu rhoi cyngor, syniadau a meddyliau am sut y gallaf wneud pethau'n well, tuag at fy ngweledigaeth.

Mike Woods, Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae'r tad o dri Mike Woods wedi cwblhau allbryniant gan y rheolwyr y cwmni a sefydlodd yn 2009 ar ôl i ddau o'i blant gael diagnosis o alergedd difrifol i gnau.

Un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach, mae Cwmni Just Love Food o Gaerffili yn darparu cacennau di-gnau, fegan, di-glwten a heb laeth i’r archfarchnadoedd mawr; Tesco, Asda, Sainsbury’s, a Morrisons. Ac mae'r cwmni - sydd â throsiant o £3.8 miliwn ac sy'n cyflogi 70 o bobl - wedi lansio cacen lindysyn o'r enw Archie yn ddiweddar sy'n addas ar gyfer feganiaid.

Heddiw, diolch i becyn cyllid benthyciad ac ecwiti gwerth £750,000 a ddarparwyd gan Fanc Datblygu Cymru, mae Mike, 56, wedi gallu prynu cyfranddalwyr presennol a chymryd rheolaeth yn ôl ar ei gwmni, gyda’r Banc Datblygu yn cymryd cyfran ecwiti o 30%.

Ym mis Mai 2023, enillodd Just Love Food gydnabyddiaeth genedlaethol drwy ennill Gwobr Arloesedd Bwyd a Diod Cymru yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru, a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru.

Yn ail rifyn y gwobrau cafodd rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod mwyaf creadigol Cymru eu dathlu a’u cydnabod am y gwaith arloesol y maent yn ei wneud ar draws y diwydiant.

Gwyliwch y fideo isod i ganfod mwy.

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni