Os ydych chi’n fusnes Cymreig sydd ag uchelgeisiau byd-eang, peidiwch ag edrych tuag y Banc Datblygu am gyllid yn unig—edrychwch am arweiniad ganddynt. Fe wnaeth eu harbenigedd mewn allforio, eu cysylltiadau a’u cefnogaeth ymarferol ein helpu i dyfu’n hyderus i farchnadoedd newydd gan gadw ein gwreiddiau yn Ne Cymru.
Dr. Paul Taylor, Prif Weithredwr a Sylfaenydd, Laser Wire Solutions
Y busnes
Wedi'i sefydlu gan Dr. Paul Taylor yn 2011, mae Laser Wire Solutions yn gwmni gweithgynhyrchu manwl gywir wedi'i leoli yn y QED Centre yn Ne Cymru.
Mae'r busnes yn dylunio ac yn adeiladu peiriannau prosesu laser perchnogol ar gyfer cymwysiadau hollbwysig yn y sectorau meddygol, awyrofod, modurol a chanolfannau data. Mae'r holl offer wedi'i ddylunio a'i gynhyrchu'n fewnol, gan arddangos rhagoriaeth peirianneg Cymru ar lwyfan byd-eang.
Yr her
Nod Laser Wire Solutions oedd gwasanaethu diwydiannau mwyaf heriol y byd—lle nad oes modd trafod cywirdeb, dibynadwyedd a chydymffurfiaeth. O gathetrau â gwifrau teneuach na gwallt dynol i gydrannau awyrofod a seilwaith data, roedd angen y canlynol ar y cwmni:
- Cyfalaf i ddatblygu technoleg berchnogol
- Peiriannau wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ar gyfer cynhyrchu manyleb uchel
- Cymorth wrth lywio rheoliadau rhyngwladol cymhleth
Roedd torri i mewn i'r marchnadoedd byd-eang rheoleiddiedig hyn yn gofyn am fwy na chyllid—roedd yn galw am bartner strategol a oedd yn deall twf diwydiannol hirdymor.
Y datrysiad

Daeth Banc Datblygu Cymru i’r fei fel y partner hwnnw i'r cwmni. Galluogodd eu buddsoddiad Laser Wire Solutions i:
- Gynyddu graddfa eu gweithrediadau gweithgynhyrchu ar raddfa fawr yn Ne Cymru
- Datblygu technolegau prosesu laser safon uwch
- Adeiladu peiriannau pwrpasol wedi'u teilwra i anghenion y diwydiant byd-eang
Y tu hwnt i gyllid, helpodd proses diwydrwydd dyladwy'r Banc Datblygu i ddenu cyd-fuddsoddiad ac adeiladu ymddiriedaeth gyda chwsmeriaid rhyngwladol. Trwy ei rwydwaith, hwylusodd y Banc Datblygu gysylltiadau strategol hefyd a darparodd gefnogaeth barhaus ar gyfer datblygu'r farchnad ryngwladol.
Yr effaith
Mae Laser Wire Solutions wedi tyfu i fod yn fusnes byd-eang gyda bron i 60 o weithwyr—y rhan fwyaf wedi'u lleoli yn Ne Cymru, gydag aelodau tîm yn yr Unol Daleithiau, Mecsico, a Costa Rica. Rhwng 2022 a 2024, cynyddodd y trosiant 67%, gan gyrraedd dros £10 miliwn.
Uchafbwyntiau twf allweddol:
- Refeniw o £10M+ (2024)
- 90%+ o allforion i UDA, Mecsico, a Costa Rica
- Twf refeniw o 67% mewn dwy flynedd
- Cyfleuster 40,000 troedfedd sgwâr yn y QED Centre
Uchafbwyntiau arloesedd a chefnogaeth:
- Ariannodd grant SMART Cymru Ficrosgop Sganio Electron ar gyfer contractau meddygol
- Grant hyfforddi Sgiliau Hyblyg (2023–2025)
- Cyllid arloesi Cymorth Arloesi Hyblyg Smart /CAHS (o 2024 ymlaen)
- Partneriaethau strategol gyda Schleuniger a Komax
Cydnabyddiaeth:

- Gwobrau Twf Cyflym lluosog
- Ymhlith Cwmnïau sy'n Tyfu Gyflymaf yn Ewrop y Financial Times
- Derbynnydd Gwobr y Frenhines
- Ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr y Brenin am Fasnach Ryngwladol (2026)
Beth mae'r sylfaenydd yn ei ddweud

Os ydych chi’n fusnes Cymreig sydd ag uchelgeisiau byd-eang, peidiwch ag edrych tuag y Banc Datblygu am gyllid yn unig—edrychwch am arweiniad ganddynt. Fe wnaeth eu harbenigedd mewn allforio, eu cysylltiadau a’u cefnogaeth ymarferol ein helpu i dyfu’n hyderus i farchnadoedd newydd gan gadw ein gwreiddiau yn Ne Cymru.
Dr. Paul Taylor, Prif Weithredwr a Sylfaenydd, Laser Wire Solutions
Edrych tua’r dyfodol
Mae Laser Wire Solutions yn parhau i arloesi o'i ganolfan yn Ne Cymru, gan ehangu ei ôl troed mewn marchnadoedd byd-eang ac aros yn driw i'w wreiddiau Cymreig ar yr un pryd. Gyda chefnogaeth barhaus gan Fanc Datblygu Cymru, mae'r cwmni mewn sefyllfa dda i arwain mewn gweithgynhyrchu hollbwysig ar draws sawl sector.