Mazuma

Vanessa-Smith
Swyddog Portffolio

Roedd argaeledd y brydles ar safle ein swyddfa newydd yn gyfle gwych i sicrhau sylfaen barhaol yn y dref ac i ehangu ein busnes cynyddol. Roedd y Banc Datblygu'n gallu ein cefnogi'n gyflym, gan ein galluogi i fanteisio'n llawn ar gyfle amserol.

Sophie Hughes, Cyfarwyddwr

Mae Mazuma, sy'n seiliedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cynnig gwasanaethau cyfrifyddu a chadw cyfrifon o hir bell ac ar-lein i fusnesau bach ar hyd a lled y DU.

Mae Mazuma wedi derbyn sawl rownd o gyllid dros y blynyddoedd gan Fanc Datblygu Cymru, a Chyllid Cymru gynt, rhagflaenydd y banc datblygu.

Gyda chymorth benthyciad o £135,000, mae Mazuma wedi prynu prydles swyddfeydd newydd yn Dragon House, Pen-y-bont ar Ogwr. Darparwyd benthyciad pellach o £190,000 iddynt wedyn i gynorthwyo gydag adnewyddu'r eiddo newydd.

Bydd yr arbedion hirdymor o ganlyniad i fod yn berchen ar eu safle eu hunain yn hytrach na thalu rhent yn caniatáu i Mazuma ail-fuddsoddi yn ôl i'r busnes ac ehangu ymhellach.

Yn ddiweddar, mae Mazuma wedi sicrhau cyfalaf twf ychwanegol gan syndicet o fuddsoddwyr proffesiynol, ochr yn ochr â buddsoddiad ecwiti gan y Banc Datblygu.