Meithrinfa Ddydd The Green Giraffe

Kelly-Jones
Swyddog Portffolio

Rydyn ni’n teimlo’n ffodus ein bod ni’n gallu tyfu ein busnes gydag agoriad ein dau safle newydd yn ystod pandemig Covid-19 diolch i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru. Rydym yn ceisio darparu rhaglen ddysgu amrywiol a chytbwys i bob plentyn yn ein gofal. Mae ein dull wedi profi’n hynod boblogaidd ac, ar ôl gweithio’n agos gyda’n swyddog portffolio yn y Banc Datblygu daeth yn amlwg mai 2020 oedd y flwyddyn i ni ehangu ein teulu Green Giraffe trwy agor dwy feithrinfa newydd.

Andrea Mccormack, Cyfarwyddwr y Feithrinfa

Dyblodd Meithrinfa Ddydd The Green Giraffe yng Nghaerdydd nifer y meithrinfeydd y mae'n eu rhedeg ym mlwyddyn ariannol 2020/21 diolch i fenthyciad dilynol gan y Banc Datblygu. Mae'r cwmni gofal plant poblogaidd a oedd eisoes â dwy feithrinfa yng Nghaerdydd, wedi agor dwy ychwanegol. 

Fel cwsmer presennol y Banc Datblygu, derbyniodd y busnes fenthyciad dilynol o £100,000 i ateb y galw cynyddol am eu gwasanaethau. Mae'r lleoliadau gofal dydd newydd wedi'u lleoli yn y Parade yn y Rhath a Ffordd Radnor yn Nhreganna. Maent yn ymuno â'r ddwy feithrinfa wreiddiol ym Mae Caerdydd a Ffordd yr Eglwys Gadeiriol. 

Mae Green Giraffe yn cynnig bwyd cwbl organig i bob plentyn sy'n mynychu ac yn defnyddio cyfuniad o ddulliau Montessori ynghyd â Chyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar i gefnogi amgylchedd dysgu-trwy-chwarae. Mae'r feithrinfa'n cynnig gwasanaethau gofal plant o'u genedigaeth hyd at chwech oed. 

Daeth cyllid ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.