The Oaks

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio

Helpodd benthyciad o £400,000 i bontio'r bwlch cyllid ar gyfer cartref gofal newydd The Oaks yn Y Drenewydd, Powys.

Dyluniwyd y cartref gofal ac mae'n cael ei redeg gan y Sandstone Care Group. Mae'r grŵp yn eiddo i weithwyr proffesiynol gofal profiadol, Ben Challinor, James Parkin a Richard Shore.

Fe wnaethant benodi Jen Roberts yn rheolwr cofrestredig y cartref. Mae Jen wedi gweithio'n helaeth yn y sector gofal gyda chyfoeth o brofiad yn agor ac yn rheoli cartrefi gofal yng Nghymru yn llwyddiannus.

Roedd y cyfarwyddwyr wedi sicrhau buddsoddiad preifat ond roedd angen cyllid ychwanegol arnynt ar gyfer costau cychwynnol a chyfalaf gweithio.

Mae 73 o welyau ar gyfer pensiynwyr ar gael, gyda ffocws ar ddarparu gofal nyrsio a phreswyl mewn amgylchedd o ansawdd uchel. Mae'r cartref gofal newydd wedi creu 100 o swyddi amser llawn a rhan-amser yn ogystal â darparu cyfleusterau gofal hanfodol ar gyfer ardal canolbarth Cymru.

Mae'r llety'n cynnwys lolfa ac ystafell fwyta fawr ar bob llawr, ynghyd â lolfa dawel ar wahân. Ar y llawr gwaelod mae yna hefyd gaffi i'w ddefnyddio gan breswylwyr a'u hymwelwyr. Mae yna le cymunedol ychwanegol ar yr ail lawr sydd wedi'i ddodrefnu i'w ddefnyddio fel sinema.

Agorodd y cartref gofal ar 6 Ionawr 2020, gan groesawu ei breswylwyr cyntaf ar yr un diwrnod.

Yn ystod y cyfnod cloi a achoswyd gan bandemig Covid 19 ym mis Mawrth eleni, arhosodd staff dan arweiniad Jen yn y cartref i gadw preswylwyr yn ddiogel. Roedd hyn yn caniatáu i The Oaks barhau i gynnig lefel uchel o ofal i'w cymuned, gan leihau'r risg o drosglwyddo'r coronafirws.