Oneplanet Adventure

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio

Roedd y Banc Datblygu yn allweddol wrth wneud y fargen ar gyfer pryniant yr eiddo ddigwydd. Roeddent yn hyderus yn ein cynllun, ac yn ei dro rhoddodd hynny fwy o hyder i ni.

Jim Gaffney, perchennog

Dechreuodd Jim ac Ian Oneplanet Adventure yn 2005 i droi eu brwdfrydedd dros feicio mynydd yn fusnes masnachol, gan gynnig rhentu beiciau, gweithdai a hyfforddiant ar y safle.

Mae Oneplanet Adventure, sydd yng nghanol y Goedwig 650 hectar Coed Llandegla, yn croesawu 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i ddefnyddio ei 91km o lwybrau beicio mynydd, cerdded a rhedeg.

Caniataodd cyd-fuddsoddiad chwe ffigur gennym ni a HSBC i Oneplanet Adventure brynu'r ganolfan ymwelwyr a'r meysydd parcio a oedd gynt yn eiddo i Gomisiynwyr Eglwysi Lloegr.

Bydd y pryniant yn galluogi'r busnes i ehangu a buddsoddi mewn llwybrau newydd a fydd yn denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i'r ganolfan a'r rhanbarth.