The Poetry Bookshop

Alun-Lister
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)

Gyda'n lleoliad canolog newydd, yr adnewyddiad a'r ehangiad, mae gennym le deniadol ar gyfer darlleniadau a lansiadau llyfrau hefyd.

- Melanie Prince    

A hithau wedi cael ei hagor ym 1979, y Poetry Bookshop yw'r unig siop lyfrau yn y DU sy'n ymroddedig i farddoniaeth ac mae'n un o'r siopau llyfrau sydd wedi cael ei sefydlu hiraf yn Nhref Y Gelli - sy'n enwog am ei gŵyl lenyddol flynyddol ym mis Mai a mis Mehefin.

Mae'r Poetry Bookshop, sy'n eiddo ac yn cael ei redeg gan Christopher a Melanie Prince, yn arbenigo ym mhob agwedd o farddoniaeth; cyhoeddiadau hynafiaethol, ail-law, allan o brint yn ogystal â chyhoeddiadau newydd erbyn hyn. Mae'r teitlau sy'n cael eu gwerthu yn y siop yn amrywio o Keats, Byron a Shakespeare i feirdd cyfoes megis Rupi Kaur, Luke Kennard, Rhiannon Hooson a Kate Tempest.

Yn 2017, cawsant ficro fenthyciad gennym i helpu i symud eu siop i leoliad mwy canolog yn y dref, talu am waith adnewyddu ac ehangu eu stoc i gynnwys llyfrau newydd yn ogystal â llyfrau ail-law.