Robinwood

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio

Rydym wedi bod eisiau cael safle yn y gogledd ers tro byd, ac felly cawsom gyfle i brynu ac ail ddatblygu'r safle hardd hwn yn Cross Lanes. Diolch i gymorth Banc Datblygu Cymru ac RBS NatWest rydym wedi gallu dod â chyfleusterau newydd sbon i mewn, gan gynnwys zipwire, swing enfawr a wal ddringo.

Martin Vasey, Sefydlydd

Mae Robinwood yn rhedeg nifer o ganolfannau addysg a gweithgareddau poblogaidd ar gyfer grwpiau ysgolion cynradd rhwng 7 ac 11 oed.

Gall plant ddringo a chanŵio, reidio ar siglen enfawr neu swmio i lawr 'zipwire' - a hyn i gyd ar yr un safle. Mae gwersi a gweithgareddau wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol grwpiau yn ôl eu blwyddyn, a phob un ohonynt yn astudio cyfnod allweddol 2.

Prynodd Robinwood westy a oedd wedi cau i lawr yn Cross Lanes, Wrecsam am £1.4 miliwn yn 2016.  Fe gawsant fenthyciad o £1.5 miliwn gan y Banc Datblygu Cymru i'w helpu i ail ddatblygu'r safle fel rhan o gynlluniau gwerth £5.6 miliwn. Rhoddodd NatWest fenthyciad gwerth £4.1 miliwn i helpu'r prosiect. Mae'r ganolfan weithgaredd newydd wedi creu 38 o swyddi.