ShearWater Eco

Claire-Vokes
Swyddog Buddsoddi

Fy uchelgais yw gweld ein cynhyrchion sy'n seiliedig ar blanhigion, heb blastig a dim gwastraff yn disodli plastigau NDSC yn y cartref. Mae'r byd yn wynebu argyfwng hinsawdd, sy'n cael ei waethygu gan ein defnydd o blastigau un defnydd. Gan ddefnyddio ffibrau naturiol, a fyddai fel rheol yn cael eu gwastraffu, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol ein planed. Mae'r gefnogaeth a gefais gan y Banc Datblygu wedi bod yn amhrisiadwy wrth hybu ein presenoldeb ar-lein.

Paris Oomadath, Sylfaenydd

Yn arbenigo mewn dewisiadau amgen yn seiliedig ar blanhigion yn lle defnyddio plastig yn y cartref, syniad y fentergar wraig Paaristha ‘Paris’ Oomadath yw ShearWater Eco Ltd.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn cynhyrchu a dylunio ffibr planhigion, lansiodd Paris ei safle e-fasnach yn 2020 gyda chefnogaeth micro fenthyciad o £35,000 gan Fanc Datblygu Cymru. Roedd yr arian hefyd yn cefnogi prynu cerbyd i helpu gyda danfoniadau lleol.

Gan ddefnyddio ffibrau planhigion naturiol fel cywarch, sisal, bambŵ, banana, oren, aloe, rattan, jiwt, cacti, cnau coco a gwymon, mae Paris a'i thîm yn creu ystod o nwyddau defnyddwyr sy'n symud yn gyflym (NDSC) sy'n cael eu defnyddio o amgylch y cartref. O'r papur toiled di-blastig rhataf yn y DU, i decstilau a chynhyrchion glanhau.

Ar ôl ymweld â gŵyl Ocean Film ym Mhorthcawl yn 2018, sylweddolodd Paris fod angen mwy o gyfrifoldeb ac atebolrwydd gan fusnesau a gweithgynhyrchwyr i weithio tuag at Gynllun Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hi wedi bod yn gweithio i sicrhau bod cwmnïau eraill yn gallu dilyn ei ôl troed. Yn amrywio o'r papur toiled eco ddi-blastig rhataf yn y DU, i decstilau a dodrefn cartref. Lansiodd y cwmni gyda'u hystod Tŷ Môr o gynhyrchion papur eco di-goed a dim gwastraff sy'n cynnwys papur toiled, rholyn cegin a hancesi papur.

Mae'r busnes newydd ecogyfeillgar yn gweld potensial mawr yng Nghymru i adeiladu ffatri weithgynhyrchu werdd, lle maen nhw'n anelu at gynhyrchu'r cynhyrchion ffibr naturiol a chreu mwy o swyddi lleol.

Cyflwynwyd Paris i Fanc Datblygu Cymru gan Busnes Cymru.