Spectrum Internet

Dave-Perez
Uwch Swyddog Portffolio

Mae'r cyllid gan Fanc Datblygu Cymru wedi bod yn gatalydd i bopeth rydyn ni wedi'i gyflawni. Roeddem wedi cwblhau ein prawf-cysyniad, ac roeddem yn credu yn ein potensial ein hunain - roedd angen i eraill ei gredu hefyd. Helpodd Banc Datblygu Cymru i wneud i hynny ddigwydd - gan ein harfogi â'r gallu i symud ymlaen ac ennill buddsoddiad mawr ein hunain. Rydyn ni nawr ar y trywydd iawn i ddod yn ddarparwr gwasanaeth band eang cartref mwyaf a gorau Cymru.

Giles Phelps, Sylfaenydd Spectrum 

Fe wnaeth buddsoddiad o £350,000 yn Spectrum alluogi'r darparwr gwasanaeth band eang yng Nghaerdydd i sicrhau cefnogaeth Infracapital, cangen buddsoddi mewn seilwaith M&G ac un o fuddsoddwyr seilwaith mwyaf Ewrop.

Mae Spectrum bellach wedi ad-dalu Banc Datblygu Cymru a bydd yn parhau i wthio ymlaen gyda'i gynllun creu swyddi i adeiladu seilwaith band eang ffibr llawn ledled De Cymru; dod â gwasanaethau ffibr i'r adeilad yn uniongyrchol io leiaf 150,000 o gartrefi a busnesau o Gymru fel rhan o'r gwaith adeiladu cychwynnol.

Disgwylir i drefi a phentrefi yn Sir Fynwy, Bro Morgannwg a Sir Benfro fod y cyntaf i elwa, gyda chynlluniau i gyrraedd cymunedau eraill ledled De Cymru o fewn tair i bum mlynedd.

Bydd Spectrum hefyd yn ehangu ei bencadlys a'i staff gweithrediadau yng Nghymru i gefnogi adeiladu'r rhwydwaith, ynghyd â'i weithrediadau marchnata, gwerthu a chymorth i gwsmeriaid. Disgwylir i 140 o swyddi gael eu creu.