- Rhanbarth
-
De Cymru
- Math o gyllid
-
Ecwiti
- Angen y busnes
-
Prynu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £100,000
“Mae gennym uchelgeisiau enfawr ar gyfer y cwmni ac mae'r gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru yn hanfodol i gyflawni'r rhain. Rydym yn sicrhau perthnasoedd ac yn gweithio gyda nifer o wneuthurwyr gyda brandiau cryf i'w gwerthu i'r DU. Rydym am ddod yn ddosbarthwr annibynnol mwyaf o'r mathau hyn o gynhyrchion gyda'n hystod cynnyrch brand ein hunain hefyd.”
Mae Spotnails, sydd wedi'I leoli ym Medwas, Caerffili yn ddosbarthwr offer a ffasnyddion annibynnol ers amser maith i'r diwydiant adeiladu yn y DU.
Roedd pecyn ariannu buddsoddi ecwiti gwerth miliynau o bunnoedd yn cefnogi pryniant rheolwyr (MBO) yn y cwmni.
Fe wnaeth y Banc Datblygu gryfhau'r tim rheoli presennol y Rheolwr Gwerthiant Jason Quaife a'r Rheolwr Cyffredinol Craig Bates drwy ddod a Chyfarwyddwr Cyllid profiadol, John Jeffreys, ar waith. Buddsoddodd y tim rheoli eu harian hefyd yn y busnes a rhoddodd Ultimate Finance gyfleuster benthyca ar sail asedau.
Gyda'r cyllid newydd a thim rheoli profiadol iawn mae gan y busnes uchelgeisiau cryf a ffocws ar dwf.