Taylor Facilities Management

Sam-Macallister-Smith
Uwch Swyddog Portffolio

Trosolwg o'r busnes

Mae Taylor Facilities Management yn gwmni rheoli cyfleusterau wedi'i leoli yn Llanelli sy'n gweithredu ledled y DU ac Iwerddon. 

Wedi'i sefydlu yn 2013, mae'r busnes wedi tyfu o fod yn weithrediad rhanbarthol i fod yn ddarparwr cenedlaethol o wasanaethau rheoli cyfleusterau, gan weithio gyda chleientiaid masnachol mawr ochr yn ochr â chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Mae'n cyflogi 70 o bobl ac yn parhau i ehangu ei gyrhaeddiad wrth gadw gwreiddiau cryf yng Nghymru. 

Sefydlwyd Taylors gan Pete a Leah Taylor, sydd wedi arwain twf y cwmni dros y degawd diwethaf. Yn dilyn pryniant rheolwyr (MBO), mae perchnogaeth wedi trosglwyddo i'r rheolwyr hirdymor Trystan Lloyd, Pete Walsh, Jack Payne a Taylor Davies, ynghyd â Chris Thomas o SME Finance Partners. 

Mae Pete a Leah Taylor yn parhau i chwarae rhan weithredol yn y busnes, gan ddarparu arweinyddiaeth weithredol a mentora wrth i'r genhedlaeth nesaf o berchnogion symud y busnes yn ei flaen. 

Gweithio gyda ni

Dyddiad y rownd gyllido fwyaf diweddar: 2026
Maint: £2.8 miliwn
Cronfa: Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru a Chronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru 

Gwnaethom ddarparu buddsoddiad o £2.8 miliwn i gefnogi pryniant rheolwyr Taylor Facilities Management. Cynlluniwyd yr MBO i gryfhau'r strwythur arweinyddiaeth drwy roi cyfran berchnogaeth yn y busnes i aelodau allweddol o'r tîm rheoli. 

Mae'r trafodiad yn dangos sut y gall cyllid olyniaeth helpu busnesau Cymru i lywio cyfnodau tyngedfennol tra'n cadw gwerth yng Nghymru. Drwy gefnogi parhad perchnogaeth ac arweinyddiaeth, mae'r buddsoddiad hwn wedi helpu i sicrhau bod arbenigedd, swyddi a chyfleoedd twf yn y dyfodol yn parhau wedi'u gwreiddio yn y cymunedau lle adeiladwyd y busnes. 

Mae ein buddsoddiad yn tynnu sylw at y rôl y gall cyllid ei chwarae wrth helpu busnesau Cymru i ehangu'n llwyddiannus, cadw gwerth yn lleol a chreu effaith economaidd hirdymor. Drwy gefnogi'r cwmni ar adeg bwysig o drawsnewid, rydym wedi helpu i sicrhau dyfodol cwmni a sefydlwyd yng Nghymru sy'n tyfu, gan ddiogelu swyddi yng Nghymru. 

Barn pobl

Dywedodd Pete Taylor, Cyd-sylfaenydd Taylor Facilities Management:

"Rydym wedi adeiladu'r busnes dros y degawd diwethaf ac rydym yn hynod falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni. Mae'r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i gydnabod cyfraniad y tîm sydd wedi helpu i ysgogi'r twf hwnnw, gan roi'r strwythur cywir yn ei le ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r MBO yn rhoi cyfran wirioneddol yn y busnes i'n huwch dîm wrth inni barhau i ehangu a sicrhau contractau newydd ledled y DU ac Iwerddon, gan ddarparu'r cyfle i gyflawni cynllun twf uchelgeisiol a fydd yn ein galluogi i symud i sectorau newydd a chreu mwy o swyddi." 

Dywedodd Trystan Lloyd, Cyfarwyddwr Masnachol ac aelod o'r tîm perchnogaeth newydd:

"Fel grŵp, rydym wedi bod yn rhan o'r busnes ers nifer o flynyddoedd. Mae'r diwylliant teuluol yn y busnes yn golygu ein bod bob amser wedi teimlo'n gyfforddus yn ei drin fel pe bai'n fusnes i ni ein hunain.

"Mae cymryd perchnogaeth yn rhoi meddylfryd cwmni newydd i ni. Rydym yn ei weld fel pennod newydd gyda sylfaen gadarn. Mae'n ein galluogi i barhau i ddatblygu perthnasoedd a sbarduno twf, heb golli golwg ar ble y dechreuodd y daith." 

Dywedodd Sam Macalister Smith, Uwch Weithredwr Portffolio, a Mark Sommers, Gweithredwr Portffolio, Banc Datblygu Cymru:

"Mae Taylor Facilities Management yn enghraifft gref o fusnes a sefydlwyd yng Nghymru sydd wedi ehangu'n llwyddiannus i fod yn weithrediad cenedlaethol. Mae'r buddsoddiad hwn yn cefnogi pryniant rheolwyr sydd wedi'i gynllunio'n dda, sy'n gwobrwyo'r sylfaenwyr ac yn grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, gan gadw'r busnes wedi'i wreiddio yng Nghymru a chyflogi pobl yn lleol.

"Mae'r busnes wedi sicrhau contractau amlwg ac wedi dangos twf cyson, ac edrychwn ymlaen at gefnogi'r tîm rheoli wrth iddynt adeiladu ar y momentwm hwn a pharhau i ehangu eu hôl troed."