Tregroes Waffles

Richard-Easton
Swyddog Portffolio

Mae'r farchnad yn y DU yn tyfu'n gyflym am flas ein wafflau ac rydym eisoes yn cyflenwi llawer o allfeydd ledled y DU. Mae gallu ychwanegu'r capasiti cynhyrchu hwn i'r becws, yn adeg gyffrous a balch a fydd yn creu sylfaen wych ar gyfer y dyfodol.

Kees Huysmans, rheolwr gyfarwyddwr

Mae Tregroes Waffles wedi bod yn gwneud wafflau yng ngorllewin Cymru ers dros 30 mlynedd. Symudodd Kees Huysmans i Landysul o'r Iseldiroedd a dechrau cynhyrchu'r danteithion melys poblogaidd o'r Iseldiroedd.

Gan fod y cwmni yn dod yn eiddo i'r gweithwyr, fe wnaethant fenthyg chwe ffigur o Gronfa Busnes Cymru a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, i brynu offer newydd yn haf 2019.

Roedd y peiriannau newydd yn caniatáu i'r cwmni gynyddu'r cynhyrchiad gan fynd o wneud 4,000 o wafflau'r awr i fwy na 10,000 o wafflau'r awr erbyn diwedd 2020.

Helpodd y buddsoddiad i sicrhau swyddi 18 aelod o staff presennol ynghyd â chaniatáu i Tregoes Waffles ateb y galw am eu cynhyrchion gan nifer o archfarchnadoedd sy’n gwsmeriaid newydd.

Os ydych yn edrych i ddod yn gwmni o dan berchnogaeth gweithwyr, gall arbenigwyr y Canolfan Cydweithredol Cymru eich helpu. Ewch i wefan Canolfan Cydweithredol Cymru am fwy o wybodaeth.