Vizolution

Kabitah-Begum
Uwch Swyddog Portffolio

Rydym wrth ein bodd bod Banc Datblygu Cymru yn parhau i gefnogi Vizolution ac yn parhau i gredu ynom. Mae eu buddsoddiadau, eu cymorth a’u harweiniad dros y blynyddoedd wedi golygu llawer ac wedi bod yn rhan fawr o’n llwyddiant. Rydym yn edrych ymlaen at sawl blwyddyn lwyddiannus arall o weithio gyda’n gilydd.

Bill Safran, Prif Weithredwr, Vizolution

Cwmni technoleg CX blaenllaw yn y farchnad yw Vizolution sy’n helpu busnesau i symleiddio prosesau cymhleth o ddelio â chwsmeriaid trwy atgynhyrchu priodweddau cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn eu sianelau o bell.

Mae Vizolution sydd a’i bencadlys ym Mhorth Talbot, yn cyflogi dros 150 o bobl ac mae ganddo swyddfeydd ym Mryste, Llundain, Boston, a Toronto. Mae’r Banc Datblygu wedi cefnogi’r cwmni ers iddo gael ei lansio yn 2013. 

Yn 2018 sicrhaodd y cwmni £10m gan fuddsoddwyr newydd, Santander Consumer Finance and Royal Bank of Scotland, ynghyd â £2m ychwanegol gan y Banc Datblygu ynghyd â chyllid pellach gan unigolion preifat a buddsoddwyr oedd eisoes wedi rhoi cyllid, gan gynnwys HSBC. Defnyddiwyd y cyllid diweddaraf hwn i helpu Vizolution i ddatblygu cynnyrch newydd ac ehangu ei waith yng Ngogledd a De America.

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr.

Ymgeisio nawr