X-Stream Properties Limited

Nicola-Crocker
Rheolwr Cronfa

Bydd y benthyciad gan y banc datblygu yn ein galluogi ni i anadlu bywyd newydd i'r capel gan weithio yn unol â’r fanyleb uchaf; byddwn yn creu llety sy'n rhagori ar ddisgwyliadau'r prynwyr mwyaf gwybodus.

Xavier Rush, Cyfarwyddwr

Sefydlodd Xavier X-Stream Properties Limited yn 2016 ar ôl iddo ymddeol o rygbi proffesiynol.

Yn sgil ei brosiect diweddaraf gweddnewidiwyd Ysguboriau Gorllewin Aberthaw ganddo i eiddo modern a gafodd ei gaffael gan Orbis Education and Care, fel preswylfa ar gyfer oedolion awtistig.

Gyda chymorth benthyciad o £1.1 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru, bydd Xavier Rush yn adnewyddu Capel Pen Y Fal, sy'n adeilad Rhestredig Gradd II yn y Fenni i chwech o drefdai o ansawdd uchel.